All news
Sefydlu Comisiwn Pobl Hŷn Cymru: Effaith, Effeithiolrwydd a’r Gwersi a Ddysgwyd
Cafodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei phenodi yn 2008 a dyma oedd y rôl gyntaf o’i math yn y byd, gan ddangos bod Cymru’n arwain y byd o ran gosod blaenoriaeth uchel ar ddiwallu anghenion amrywiol pobl hŷn.
Mae effaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi’i hystyried fel rhan o arfarniad allanol, sydd hefyd yn cynnwys y gwersi allweddol a ddysgwyd o brofiadau’r Comisiynydd.
Mae’r adroddiad cychwynnol yma ar yr arfarniad yn egluro proses sefydlu swydd y Comisiynydd Pobl Hŷn.
Mae’n tynnu sylw at gynnydd a champau’r 18 mis cyntaf ac yn pwyso a mesur yr heriau allweddol a’r pwyntiau dysgu a gafwyd ar hyd y ffordd.
Erbyn hyn mae’r adroddiad yma ar gael fel adnodd i helpu eraill a allai ddysgu oddi wrth brofiadau’r Comisiwn.
Gan fyfyrio ar adegau allweddol wrth i’r Comisiwn Pobl Hŷn gael ei sefydlu, mae’n anelu at roi gwybodaeth i unrhyw un sy’n ystyried creu sefydliad a chanddo nodau a strwythurau sefydliadol tebyg, neu sydd wrthi’n gwneud hynny.
Effaith, Effeithiolrwydd a’r Gwersi a Ddysgwyd: Sefydlu Comisiwn Pobl Hŷn Cymru (.pdf)
Crynodeb Gweithredol (.pdf)