All news
Eiddilwch: Negeseuon o ymgynghoriad Comisiwn Pobl Hŷn Cymru
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am annog, hybu a helpu i sefydlu un ymagwedd ledled Cymru at eiddilwch, a honno’n arwain at newid cadarnhaol ym mywydau pobl hŷn.
Bwriad yr adroddiad hwn, sydd wedi’i seilio ar drafod ymysg gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol mewn seminar o dan aden y Comisiwn ym mis Mawrth 2011, yw cyfrannu at ddatblygu consensws ac ymrwymiad i ffordd newydd o gefnogi pobl hŷn eiddil. Mae’n anelu at gyflwyno ymdeimlad gwell o’r hyn y mae angen inni ei wneud nesaf yng Nghymru a ble y mae angen canolbwyntio’n hegni yn unigol ac ar y cyd.
Os hoffech dderbyn copi o’r nodiadau gymerwyd yn y digwyddiad Ymgynghori Llesgedd, cysylltwch â'r Comisiwn ar 08442640670 neu anfonwch e-bost i ask@olderpeoplewales.com
Eiddilwch: Negeseuon o ymgynghoriad Comisiwn Pobl Hŷn Cymru (.pdf)