All news

Astudiaeth Gwmpasu ar Wasanaethau Gwybodaeth a Chyngor i Bobl Hŷn yng Nghymru

Astudiaeth Gwmpasu ar Wasanaethau Gwybodaeth a Chyngor i Bobl Hŷn yng Nghymru (.pdf)

Diben yr astudiaeth hon yw nodi darlun eang y gwasanaethau gwybodaeth a chyngor i bobl hŷn yng Nghymru a bwydo gwaith y Comisiwn yn y maes hwn. Mae'n cymryd i ystyriaeth y gwerthoedd sy'n sail i swyddogaethau'r Comisiwn a gweithgareddau perthynol y Comisiwn a'i bartneriaid. 

Mae'r astudiaeth yn adolygu‟r ymchwil gefndir sy'n ymwneud â gwasanaethau gwybodaeth a chyngor i bobl hŷn ac yn nodi safonau a modelau o arferion da wrth gynllunio a chyflwyno gwasanaethau i bobl hŷn. Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddisgwyl gan wasanaethau gwybodaeth a chyngor ac i ba raddau y mae'r gwasanaethau presennol yn diwallu eu gofynion, yn enwedig gofynion pobl hŷn sydd mewn perygl o gael niwed. 

Mae'n ystyried effaith yr hinsawdd bolisi bresennol a'r hinsawdd ariannol bresennol ar ddatblygiadau a chynaliadwyedd mewn gwasanaethau gwybodaeth a chyngor. Mae'n ystyried y gwahanol ddulliau o gyflwyno a defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Mae'n edrych ar wasanaethau o safbwynt daearyddiaeth, cydraddoldeb ac iaith.

Mae'r astudiaeth yn ymdrin â gwasanaethau gwybodaeth a chyngor ar draws ystod eang o feysydd polisi, gan roi sylw arbennig i wasanaethau gwybodaeth a chyngor integredig ac i gynhwysiant ariannol. Mae wedi'i chynnal drwy ddefnyddio ymchwil desg ac ymchwil ar y we a chyfweliadau strwythuredig gyda phobl hŷn, sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl hŷn ac adrannau ac asiantaethau‟r llywodraeth.

Facebook Twitter DZone It! Digg It! StumbleUpon Technorati Del.icio.us NewsVine Reddit Blinklist Add diigo bookmark

Ffon: 08442 640670 | E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com

Web Design WalesWebsite designed by Comgem.