All news

Bil Diwygio Lles - Ail Ddarlleniad yr Arglwyddi

Bil Diwygio Lles – Ail Ddarlleniad yr Arglwyddi

Mae’r briffiad hwn yn canolbwyntio ar Ran 4 o’r Bil sy’n ymwneud â disodli’r Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) â Thaliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP) a’r effaith bosibl ar bobl hŷn yng Nghymru.

Pam mae hawlio budd-daliadau anabledd mor bwysig i bobl hŷn yng Nghymru

  • Cymru sydd â’r gyfran uchaf o bobl hŷn o holl wledydd y Deyrnas Unedig (Monitor Lles Pobl Hŷn Cymru 2009)
  • Mae’r gyfran sy’n hawlio budd-daliadau sy’n gysylltiedig â diweithdra ac sy’n 55-64 oed gryn dipyn yn uwch yng Nghymru na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (Ffocws Ystadegol ar Bobl Hŷn yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru 2008).
  • Mae clefydau ac anhwylderau sy’n cyfyngu ar fywyd yn fwy mynych yng Nghymru. Mewn arolwg ymhlith pobl hŷn yng Nghymru, roedd chwarter yn hawlio Lwfans Byw i’r Anabl. (For richer for poorer, the financial situations of older people in Wales – Age Concern/Help the Aged 2004)
  • Cymru sydd â’r gyfran uchaf yn hawlio’r Lwfans Gweini yn y Deyrnas Unedig (briffiad y Comisiynydd Pobl Hŷn 2010)

Datblygiadau yn ystod hynt y Bil

  • Nid yw’r Bil Diwygio Lles yn gwneud dim i roi sylw i anghysondeb sylfaenol yn y system fudd-daliadau. Bydd i’r PIP arfaethedig gydran gofal a chydran symudedd, yr un fath â’r DLA. Yn achos y bobl hynny a fydd yn dechrau cael anawsterau symud ar ôl cyrraedd 65 oed ar hyn o bryd, yr unig hawl fydd ganddyn nhw yw cael y Lwfans Gweini (AA) sydd heb gydran symudedd. Ni waeth beth fo’r cymhellion dros gadw’r polisi hwn, mae’r Bil unwaith eto yn colli cyfle.
  • Mewn ymateb i’r ofnau cychwynnol (Y Cynghrair Anabledd, Mawrth 2011), erbyn hyn mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi eu rheoliadau drafft gan egluro y bydd y rhai sydd ar y DLA yn dal i gael cydrannau’r PIP newydd ar ôl cyrraedd 65 oed neu oedran pensiwn y wladwriaeth pan fydd hynny’n wahanol. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru’n croesawu’r eglurhad, ond mae ganddi bryderon o hyd.

Pwyntiau y gofynnir am eglurhad yn eu cylch

  • Ansicrwydd yn parhau  

Mae Paragraff 10 o Nodyn Briffio’r Adran Gwaith a Phensiynau ar PIP (Mai 2011) yn dweud hyn:-   

We have also said that we want to use the experience of reassessing the working-age caseload to inform any future decisions about the treatment of existing DLA recipients who are aged 65 and above.

Byddai rhagor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer ailasesu yn fuddiol, ynghyd â sicrwydd na fydd cymorth i bobl hŷn yn y dyfodol yn dibynnu ar roi cymorth tebyg i’r boblogaeth sydd o oedran gweithio.

  • Herio’r ‘rhaniad ffug’

Mae nodyn briffio’r DWP hefyd yn dweud mai’r cyfiawnhad dros barhau â thaliadau DLA i’r rhai sy’n 65 neu drosodd yw eu bod heb lwyddo i ddatblygu adnoddau digonol cyn ymddeol am fod eu hanhwylderau wedi cychwyn yn gynnar. Ond, mae’r un ddadl yn wir yn achos pobl hŷn a ddatblygodd anhawster i symud yn nes ymlaen yn eu hoes. Mae llawer o bobl hŷn yng Nghymru wedi’u cyflogi mewn gwaith isel ei dâl a gwaith rhan-amser ac mae eraill wedi gweld cyfnodau hir o ddiweithdra neu anallu. Mae gan lai o bobl hŷn Cymru gynilion sylweddol ac mae nifer cynyddol yn wynebu problemau cynyddol o ran dyledion yn ôl tystiolaeth dau gyd-adroddiad gan y Comisiynydd Pobl Hŷn a CAB a seiliwyd ar ddadansoddiad o ymholiadau i CAB gan bobl dros 60 oed yng Nghymru. Byddai wedi bod yn amhosibl i’r rhai sy’n datblygu anhawster symud o gwmpas yn nes ymlaen yn eu hoes ragweld dechrau’r anabledd na chyllidebu ar gyfer y costau ychwanegol, yn arbennig ar incwm gosod ac yn wynebu cynnydd ym mhrisiau bwyd a thanwydd. Erbyn hyn mae Ofgem yn cadarnhau bod prisiau cyfun trydan a nwy yn uwch yng Nghymru nag unman arall yn y Deyrnas Unedig. Hefyd, mae astudiaeth o bwys gan Lais Defnyddwyr Cymru (CFW) ar amgylchiadau ariannol pobl hŷn yn dangos bod mwy na phedwar o bob deg yn honni ei bod yn anos cael dau ben llinyn ynghyd nag oedd hi flwyddyn yn ôl (Talu am y dyfodol CFW 2010)

Er ein bod yn croesawu’r sicrwydd sy’n cael ei gynnig gan y PIP, nid yw dadl y Llywodraeth dros beidio â rhoi cymorth symud o gwmpas tebyg i’r PIP i’r rhai a fydd yn datblygu nam yn nes ymlaen yn eu bywyd yn ein hargyhoeddi.

  • Defnyddio deddfwriaeth eilaidd

Mae’r Llywodraeth yn dadlau o blaid defnyddio deddfwriaeth eilaidd i roi mwy o fanylion am PIP er mwyn cynyddu gymaint â phosibl ar hyblygrwydd yr ymateb i unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth ar ofal cymdeithasol yn Lloegr yng ngoleuni adolygiad Dilnot ar dalu am ofal hirdymor i bobl hŷn yn Lloegr. Mae cynnwys ac amserlen y newidiadau mewn gofal cymdeithasol yn debyg o fod yn wahanol ar draws y Deyrnas Unedig gan mai swyddogaeth sydd wedi’i datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yw gofal cymdeithasol. Gan hynny, fe fydden ni’n gofyn am sicrwydd bod trafodaethau llawn yn digwydd gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y bwriad i ddefnyddio deddfwriaeth eilaidd fel hyn.

  • Effaith bosibl ar y Lwfans Gweini

Er ein bod yn sylweddoli nad yw’r Bil cyfredol yn ymdrin â’r Lwfans Gweini, mae’r Comisiynydd ac eraill eisoes wedi cael sicrwydd y bydd trafodaethau llawn gyda Llywodraeth Cymru’n cael eu cynnal os bydd unrhyw benderfyniadau ar ôl gwaith Dilnot sy’n effeithio ar ofal cymdeithasol yn Lloegr yn effeithio hefyd ar y Lwfans Gweini. Serch hynny, fe allai’r ffordd y caiff PIP ei drin yn y Bil hwn gael ei gweld fel cynsail.

Fe fydden ni am sicrhau cydnabyddiaeth gyhoeddus gan y Llywodraeth nad yw’r cymhwyster i gael budd-daliadau a pharhad budd-daliadau sy’n gymwys ledled y Deyrnas Unedig yn cael eu pennu ar sail penderfyniadau ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn Lloegr yn unig, ynghyd ag ymrwymiad i gynnwys Llywodraeth Cymru ar bob adeg berthnasol.

Rhagor o wybodaeth: Andrew Reagan 08442 640670 o 14-28 Medi.

Facebook Twitter DZone It! Digg It! StumbleUpon Technorati Del.icio.us NewsVine Reddit Blinklist Add diigo bookmark

Ffon: 08442 640670 | E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com

Web Design WalesWebsite designed by Comgem.