Cynllun Strategol 2010-2013

Rhagair

Yr egwyddor sy’n fy arwain i yn rhinwedd fy swydd fel Comisiynydd Pobl Hyˆn annibynnol yw gwrando ar yr holl bobl hyˆn ledled Cymru a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw. Bu pobl hyˆn a llawer o sefydliadau’n gweithio’n galed i sefydlu Comisiynydd, sydd â phwerau unigryw er lles pobl sy’n 60 oed a throsodd.

Ers ymgymryd â’r swydd ym mis Ebrill 2008, rwyf wedi gwrando ar lawer o bobl hyˆn ac wedi dysgu oddi wrthyn nhw. Maen nhw wedi rhoi gwybodaeth wirioneddol ddefnyddiol am eu buddiannau a’r materion sy’n peri pryder iddyn nhw. O 2008-9 ymlaen, bûm yn casglu gwybodaeth a thystiolaeth gan sefydlu systemau cadarn i’m helpu yn fy nhasg. Yn ystod 2009-10, sefydlodd y cynllun strategol interim dîm o staff parhaol, gan gynyddu’n hymgysylltiad ni â phobl hyˆn ac ymestyn ein dylanwad ar bolisïau a’n gwaith ymyrryd.

Rwyf wedi dweud bob amser ei bod yn holl-bwysig imi feithrin partneriaethau priodol â’r nifer fawr o sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hyˆn ac ar eu rhan, gan gynnwys asiantaethau statudol, elusennau a chwmnïau preifat. Wrth gwrs, o ran llawer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru mae hyn yn golygu bod rhaid imi gadw cydbwysedd gofalus, gan fod gen i’r pwˆer hefyd i adolygu eu gwaith, craffu arno a’i herio wrth iddo effeithio ar fywydau pobl hyˆn.

Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hyˆn yw’r sylfaen amhrisiadwy y mae’r Comisiwn wedi’i seilio arni ac maen nhw’n fy helpu i brofi sut mae cyrff cyhoeddus ac eraill yn gwneud ar ran pobl hyˆn. Wrth fwrw ymlaen â’n gwaith, byddwn yn cydnabod mor bwysig yw agweddau’r cyhoedd at bobl hyˆn ac at y rhan sydd gan yr Egwyddorion i’w chwarae.

Rwyf o’r farn bendant bod newid parhaol yn debycach o gael ei wneud os byddwn yn datblygu partneriaethau agored a gonest. Rwy’n ddiolchgar am ymateb cydweithredol y nifer fawr o sefydliadau yr wyf wedi cyfarfod ac wedi cydweithio â nhw hyd yn hyn.

Mae llawer o’r pynciau a’r pryderon sydd gan bobl hyˆn yn bynciau y barnwyd, ers blynyddoedd lawer eu bod ‘yn rhy anodd delio â nhw’. Mae’r materion hyn yn cynnwys talu am ofal, sefydlu systemau teg a thryloyw, rhoi gwybodaeth glir a hwylus, urddas a pharch, amrywiadau mewn gwasanaethau mewn ardaloedd daearyddol bach neu hyd yn oed mewn sefydliadau unigol. Rwy’n credu bod yna atebion i’r heriau hyn, ond bydd gofyn sicrhau newid sylfaenol yn agwedd y gymdeithas at bobl hyˆn ac at flaenoriaethau ariannol. Rwy’n bwriadu defnyddio fy mhwerau yn ddoeth er mwyn gwneud cynnydd ar y materion hyn, fel y bo’n briodol o fewn fy nghylch gorchwyl.

Rydyn ni’n wynebu cyfnod anodd yn ariannol, yn y gwasanaethau cyhoeddus ac mewn mannau eraill. Mae’n hanfodol ein bod yn ceisio newid ein ffordd o weithredu yng Nghymru er mwyn bod yn fwy effeithiol ac er mwyn hybu arferion gwaith a strwythurau sy’n gweithio tuag at gydweithredu effeithiol.

Wrth ddatblygu strategaeth tair-blynedd ar gyfer 2010-13, rwy’n nodi cyfnod newydd pwysig i’r Comisiwn Pobl Hyˆn. Mae’n nodi’n cyfeiriad a’n prif weithgareddau ni ac fe’i hategir â chynlluniau gweithredu blynyddol ac adolygiadau cyson. Rydyn ni wedi nodi nifer o flaenoriaethau allweddol sydd wedi’u seilio ar wybodaeth a thystiolaeth sylweddol gan bobl hyˆn.

Er mwyn defnyddio’n hadnoddau yn y modd mwyaf effeithiol posibl bu’n rhaid inni gymryd penderfyniadau anodd ar ein blaenoriaethau. Mae gennyn ni ran unigryw i’w chwarae ac mae’r strategaeth hon yn nodi sut rydyn ni’n bwriadu ei gwireddu.

Ruth Marks
Comisiynydd Pobl Hyˆn Cymru

Gweledigaeth a Cenhadaeth

Gweledigaeth: ble hoffen ni fod

Rydyn ni am weld Cymru lle mae parch i hawliau ac urddas pobl hyˆn yn realiti ymarferol ym mhob rhan o fywyd, lle mae gwahaniaethu ar sail oed yn perthyn i’r gorffennol a lle ceir agwedd gadarnhaol at heneiddio a phobl hyˆn.

Cenhadaeth: y diben a’r lefel perfformiad a ddymunir

Byddwn yn Gomisiwn o’r radd flaenaf yn y byd, gan ddefnyddio’n pwerau i hybu buddiannau pobl hyˆn yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth parhaol.

Gwerthoedd

Mae’r gwerthoedd canlynol yn adlewyrchu sylwadau pobl hyˆn ac fe fyddan nhw’n diffinio diwylliant y Comisiwn:

  • yn canolbwyntio ar bobl hyˆn: Pobl hyˆn fydd wrth galon y Comisiwn. Byddwn yn gwrando, gan weithredu yn ôl yr angen. Bydd ein gwaith yn rhoi pwyslais ar y rhai sydd ar adegau yn fwy agored i niwed.
  • Gymru gyfan: Bydd y Comisiwn yn berthnasol ac yn hygyrch i bobl ym mhob rhan o Gymru.
  • yn annibynnol: Bydd y Comisiwn yn gwneud ei waith i hybu buddiannau pobl hyˆn yng Nghymru mewn ffordd sy’n annibynnol ar y llywodraeth neu unrhyw gyrff eraill.
  • yn awdurdodol: Byddwn yn sefydliad gonest a phwrpasol sy’n eglur ynghylch ei sail dystiolaeth ac sydd â chysylltiad cryf â dymuniadau a buddiannau pobl hyˆn.
  • yn awyddus i gyfathrebu: Byddwn yn ceisio cyfathrebu’n rheolaidd ac yn effeithiol â’n rhanddeiliaid allanol ac yn fewnol am faterion sy’n effeithio ar bobl hyˆn, ein gwaith a’n cynnydd. Byddwn yn gweld hyn fel proses ddwyffordd.
  • yn gydweithredol: Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill fel y bo’n briodol i osgoi dyblygu diangen, ac i wneud y defnydd gorau ar ynni ac adnoddau.

Ein gwaith ni

Cymerodd y Comisiynydd bwerau ei swydd ym mis Ebrill 2008. I ddatblygu’r gallu i arfer y pwerau hynny yn llawn, yn enwedig mewn perthynas â swyddogaethau Adolygu ac Archwilio, roedd angen amser ac ymchwilio i’w cwmpas a’u natur.

Mae cryn dipyn wedi’i wneud i sefydlu’r Comisiwn Pobl Hyˆn fel sefydliad yn ystod 2009-10. Ymgynghorwyd ynghylch y blaenoriaethau a’r methodolegau. Mae’r galw posibl ar ein hadnoddau cyfyngedig yn sylweddol ac mae – ac fe fydd – y ffordd orau i ddefnyddio’r adnoddau hynny yn holl-bwysig. Mae’n bwysig iawn rheoli disgwyliadau, a hynny yn ystod cyfnod cynnar datblygu’r Comisiwn ac yn y dyfodol.

Yn 2009 cafodd ein cynllun strategol interim ei bennu a chafodd pobl eu recriwtio i amryw o swyddi. Ar y cyd â hynny cymerodd y Comisiwn amryw o gamau i bwyso am welliannau mewn polisïau ac arferion sy’n effeithio ar bobl hyˆn. Byddwn yn mynd ymhellach yn y blynyddoedd sy’n dod i ddiffinio’r lle unigryw y mae angen i’r Comisiwn ei lenwi mewn perthynas â chyrff eraill sy’n gweithredu yng Nghymru. Mae angen inni sicrhau ein bod yn ychwanegu gwerth ac nad ydyn ni’n dyblygu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud.

Bydd y cynllun strategol tair-blynedd hwn i’r Comisiwn yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru bob blwyddyn. Mae’n nodi cyfeiriad a phrif weithgareddau’r Comisiwn ac fe’i hategir â chynlluniau gweithredol manylach. Er y byddwn yn gwneud cynnydd ynglyˆn â’n holl flaenoriaethau dros y tair blynedd y mae’r cynllun hwn yn cyfeirio atyn nhw, mae hefyd yn bwysig nodi y bydd llawer yn dal yn berthnasol am gyfnod hirach na hynny. Mae’r cynllun hwn wedi’i seilio ar ymgynghori helaeth â phobl hyˆn, ac â sefydliadau ac unigolion perthnasol yng Nghymru.

Amcanion a Gweithgareddau

Mae’r amcanion yn adlewyrchu’r pedair prif swyddogaeth sydd wedi’u nodi yn Neddf Comisiynydd Pobl Hyˆn (Cymru). Y gweithgareddau craidd canlynol fydd yn gwireddu’r amcanion yn ystod 2010-2013. Byddwn yn ceisio gweithio mewn partneriaeth, pryd bynnag y bo modd, i wireddu’r amcanion hyn ac i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl hyˆn. I gyfeirio atyn nhw er hwylustod yn unig y mae’r rhifau wedi’u rhoi gyferbyn â’r amcanion: dydyn nhw ddim yn adlewyrchu blaenoriaeth.

1. Hybu ymwybyddiaeth o fuddiannau pobl hŷn yng Ngymru

Byddwn yn gwneud y canlynol:
  • Cydnabod a dathlu cyfraniad pobl hyˆn i fywyd yng Nghymru. Byddwn yn herio stereoteipiau negyddol ac yn cymryd rhan mewn trafodaeth gyhoeddus ar agweddau at heneiddio, gan gydnabod pwysigrwydd barn y cyhoedd at bobl hyˆn a heneiddio.
  • Gwrando ar leisiau a phryderon yr amrywiaeth o bobl hyˆn a’u mynegi i’r rhai sy’n gwneud polisïau a phenderfyniadau.
  • Pwyso am roi sylw effeithiol i gwestiwn tlodi ymhlith pensiynwyr.
  • Ystyried pa mor ddigonol yw trefniadau ar gyfer cwyno, eiriolaeth a chwythu’r chwiban, gan wneud argymhellion ar wella’r rhain yn ôl yr angen.
  • Ystyried pa mor effeithiol yw’r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau gwybodaeth a chyngor, gan gydnabod eu rôl allweddol i fynd i’r afael â thlodi a chaniatáu dewis ac ymreolaeth.
  • Hybu defnyddio Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hyˆn fel ffordd i asesu polisïau ac arferion.

2. Hybu darpariaeth cyfleoedd i bobl hŷn yng Nghymru, a dileu gwahaniaethu yn eu herbyn.

Byddwn yn gwneud y canlynol:
  • Nodi ble mae gwahaniaethu ar sail oed yn bodoli, y camau y mae angen eu cymryd i roi sylw iddo a galw am waith effeithiol yng Nghymru i’w ddileu. Helpu i lunio ac adeiladu ar y cyfle sy’n cael ei gynnig gan ddeddfwriaeth yng Nghymru ac yn San Steffan.
  • Nodi’r arferion gorau wrth ddarparu cludiant sy’n diwallu anghenion pobl hyˆn, ac atebion ar gyfer hynny, gan gydnabod y rhan hanfodol y mae’n ei chwarae ym mywydau pobl hyˆn, yn enwedig felly o ran eu gallu i gymryd rhan ym mywyd y gymuned.
  • Gwirio bod y trefniadau ar gyfer talu am ofal yn cyd-fynd â’r angen i roi diwedd ar wahaniaethu ar sail oed ac yn cydymffurfio ag Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hyˆn.

3. Hybu’r arferion gorau wrth ymdrin â phobl hŷn yng Nghymru

Byddwn yn gwneud y canlynol:
  • Nodi amrywiadau yn yr arferion gorau wrth atal derbyniadau diangen i’r ysbyty, gan wneud argymhellion ynglyˆn â hynny.
  • Ceisio ac ystyried tystiolaeth ynghylch profiad pobl hyˆn mewn rhai sefydliadau gofal penodol, yn enwedig o ran urddas a pharch, nodi’r arferion gorau ac amrywiadau, gan wneud argymhellion ar gyfer gwella.
  • Pwyso am i welliannau wrth ddarparu cynorthwyon ac addasiadau gael eu gwireddu’n effeithiol.

4. Adolygu pa mor ddigonol ac effeithiol yw’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

Byddwn yn gwneud y canlynol:
  • Monitro’r ddeddfwriaeth a’r ddeddfwriaeth bosibl sy’n effeithio’n benodol ar les pobl hyˆn yng Nghymru.
  • Cynhyrchu canllaw i helpu i egluro’r ddeddfwriaeth bresennol sydd wedi’i bwriadu i ddiogelu buddiannau pobl hyˆn, gan ei gwneud yn haws felly i’w deall a’i defnyddio i ddiogelu pobl hyˆn rhag cael eu cam-drin.
  • Ymgysylltu ag eraill i ystyried pa mor ddigonol yw’r ddeddfwriaeth bresennol ynghylch amddiffyn oedolion. Fe allen ni awgrymu meysydd lle y gallai’r gyfraith gael ei chryfhau.

5. Caniatáu i swyddogaethau 1-4 yn y rhestr uchod gael eu cyflawni mewn ffyrdd sy’n briodol ac yn rheolaidd, yn ddoeth ac yn ddarbodus, sy’n defnyddio adnoddau yn effeithlon ac yn effeithiol ac sy’n adnabod ac yn rheoli risgiau.

Byddwn yn gwneud y canlynol:
  • Ymgysylltu â phobl hyˆn ledled Cymru a gwrando arnyn nhw.
  • Ymateb mewn modd priodol i ymholiadau a chysylltiadau â phobl hyˆn, gan gydweithio’n effeithiol â sefydliadau eraill. Casglu a dadansoddi’r materion sy’n dod i’n sylw drwy’r gwaith hwn, a gweithredu arnyn nhw lle bo’n briodol.
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol eraill ledled Cymru a gwrando arnyn nhw.
  • Adeiladu partneriaethau priodol er mwyn symud ein hamcanion yn eu blaen.
  • Datblygu’n sylfaen dystiolaeth i fod yn sail i’n gwaith.
  • Cyfnerthu ac adeiladu ar hyfforddiant a datblygiad i’r staff, ein systemau TG a busnes, ein dulliau rheoli a’n rheolaeth ar risgiau.
  • Mesur pa mor effeithiol yw’n perfformiad drwy waith arfarnu allanol, gan geisio dysgu gwersi wrth i’r broses fynd yn ei blaen.
  • Sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r gofynion ar draws yr holl weithgareddau.

Deilliannau

Byddwn yn mesur i ba raddau y mae’r amcanion hyn wedi’u cyflawni drwy gyfrwng y deilliannau canlynol:

  • Mwy o ymwybyddiaeth o fuddiannau pobl hyˆn  Llai o wahaniaethu ar sail oed
  • Cadw gwasanaethau sy’n gweithio’n dda i bobl hyˆn, a chynyddu’r gydnabyddiaeth iddyn nhw
  • Cyfreithiau mwy effeithiol
  • Sefydliad y gellir gweld ei fod yn ddeinamig, effeithiol ac effeithlon, a hwnnw’n gwneud gwahaniaeth parhaol

Diweddglo

Caiff cynnydd y Cynllun Strategol ei fesur drwy gyflwyno’r cynllun gweithredu blynyddol ac adroddir arno yn ein hadolygiad blynyddol.

Mae gwybodaeth ychwanegol am weithgareddau’r Comisiwn ar gael ar ein gwefan www.olderpeoplewales.com a thrwy gyfrwng ein bwletin newyddion.

Gallwch gysylltu â’r Comisiwn yn uniongyrchol ar 08442 640670 neu yn ein cyfeiriad post: Comisiynydd Pobl Hyˆn Cymru Adeiladau Cambrian Sgwâr Mount Stuart Caerdydd CF10 5FL neu drwy’r e-bost yn gofyn@olderpeoplewales.com