Y Comisiwn Pobl Hŷn Cynllun Strategol Interim 2009-2010

Gorolwg

‘Gwaith ar ei hanner’

Bydd y cynllun hwn yn nodi diben a chyfeiriad cychwynnol y Comisiwn Pobl Hŷn, gan gydnabod ei safle unigryw yn ystod ei gyfnod sefydlu a’r angen i esblygu a datblygu’n syniadau dros y misoedd sy’n dod. Rydyn ni o’r farn bod y broses o benderfynu ar y cynllun strategol yn bwysig ynddi ei hun ac yn ffordd allweddol i ymgysylltu â’r rhanddeiliaid. Er cydnabod ei bod yn ddyddiau cynnar ar y Comisiwn, mae’n rhaid hefyd inni gymryd i ystyriaeth y ffaith bod angen i benderfyniadau am ddatblygu’r drefniadaeth ac am reoli disgwyliadau gael eu cymryd a chael eu harwain gan genhadaeth a gwerthoedd craidd cytûn.  Mae gan y Comisiwn y Ddeddf a sefydlodd rôl y Comisiynydd i’w arwain, yn ogystal â’r trafodaethau helaeth sydd eisoes wedi’u cynnal gyda phobl hŷn, unigolion a sefydliadau eraill.  Gyda’i gilydd, dyma’r dystiolaeth sy’n sylfaen i’r cynllun cychwynnol, y bydd angen ei adolygu o fewn cyfnod byrrach o amser nag yr ydym yn ei rag-weld ar gyfer cynlluniau a fydd yn cael eu gwneud pan fydd y sefydliad wedi datblygu’n llawnach ac wedi sefydlu cylch cynllunio rheolaidd.

Gweledigaeth: ble hoffen ni fod

Rydyn ni am weld Cymru lle mae parch i hawliau ac urddas pobl hŷn yn realiti ymarferol ym mhob rhan o fywyd, lle mae gwahaniaethu ar sail oed yn perthyn i’r gorffennol a lle ceir agwedd gadarnhaol at heneiddio a phobl hŷn.

Cenhadaeth: y diben a’r lefel perfformiad a ddymunir

Byddwn yn Gomisiwn o’r radd flaenaf yn y byd, gan ddefnyddio’n pwerau i hybu buddiannau pobl hŷn yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth parhaol

Swyddogaethau

Gellir crynhoi swyddogaethau’r Comisiwn sydd wedi’u nodi yn y Ddeddf fel a ganlyn. Mewn cromfachau ar ôl pob un ceir crynodeb byrrach lle bo hynny’n ddefnyddiol.  Y swyddogaethau hyn yw amcanion y Comisiwn.

Dyma nhw:

  • Hybu ymwybyddiaeth o fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru
  • Hybu darpariaeth cyfleoedd i bobl hŷn yng Nghymru, a dileu gwahaniaethu yn eu herbyn (hybu diwedd ar wahaniaethu ar sail oed)
  • Hybu arferion da wrth ymdrin â phobl hŷn yng Nghymru (hybu arferion da)
  • Adolygu pa mor ddigonol ac effeithiol yw’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru (adolygu’r gyfraith)
  • Caniatáu i swyddogaethau 1-4 yn y rhestr uchod gael eu cyflawni mewn ffyrdd sy’n briodol ac yn rheolaidd, yn ddoeth ac yn ddarbodus, sy’n defnyddio adnoddau yn effeithlon ac yn effeithiol ac sy’n adnabod ac yn rheoli risgiau (cyflawni’r swyddogaethau yn effeithlon ac yn effeithiol)

Gwerthoedd

Bydd y gwerthoedd canlynol yn diffinio diwylliant y Comisiwn, ac maen nhw wedi’u seilio ar nodweddion sefydliadau llwyddiannus ac ymgynghori â’r rhanddeiliaid. 

Bydd y Comisiwn:

(Gwerthoedd allblyg)

  • yn canolbwyntio ar bobl hŷn, yn canolbwyntio ar gwsmeriaid: Pobl hŷn fydd wrth ei galon. Bydd yn rhoi pwyslais ar y rhai sydd ar adegau yn fwy agored i niwed.[1]
  • i Gymru gyfan:  Mae angen i’r Comisiwn ymgysylltu â phobl hŷn ym mhob rhan o Gymru.
  • yn annibynnol:  Bydd y Comisiwn yn gwneud ei waith i hybu buddiannau pobl hŷn yng Nghymru mewn ffordd sy’n annibynnol ar y llywodraeth neu unrhyw gyrff eraill.
  • yn awdurdodol: Byddwn yn sefydliad gonest a phwrpasol sy’n eglur ynghylch ei sail dystiolaeth ac sydd â chysylltiad cryf â dymuniadau a buddiannau pobl hŷn.
  • yn canolbwyntio ar ddeilliannau: Byddwn bob amser yn ceisio mesur a chofnodi effaith ein gwaith.
  • yn ffafrio gweithredu: Rydyn ni’n gorff arloesol a byddwn yn rhagweithiol ac yn egnïol wrth hybu buddiannau pobl hŷn.
  • yn wych yn yr hanfodion: Mae hyn yn golygu, er enghraifft, gosod pwyslais ar brofiad pobl o gysylltu â ni, sicrhau amserau ymateb a safonau da, trylwyredd mewn ymchwil, sail dystiolaeth gref, sylw i fanylion.
  • yn hyblyg: Byddwn yn arddel ymagwedd hyblyg a chydweithredol at waith yn y sefydliad a’r tu allan iddo, gan gydnabod bod angen dysgu ac ymateb i’r annisgwyl yn ogystal â chynllunio ymlaen.
  • yn arloesol: Byddwn yn chwilio am gyfleoedd i beilotio a datblygu dulliau newydd yn y sefydliad a’r tu allan iddo, gan gydnabod rôl arloesol y Comisiwn a’r angen i ganfod a rhannu gwell ffyrdd o weithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan.
  • yn glir o ran ei ddiben a’i gyfeiriad: Bydd gennyn ni gynllun a gwerthoedd y cytunir arnyn nhw ac a fydd yn cael eu deall, a’r rheiny’n arwain ein gwaith a’n blaenoriaethau ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.
  • yn awyddus i gyfathrebu: Byddwn yn ceisio cyfathrebu’n rheolaidd ac yn effeithiol â’n rhanddeiliaid allanol ac yn fewnol am faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn, ein gwaith a’n cynnydd. Byddwn yn gweld hyn fel proses ddwyffordd. 
  • yn ymwybodol o gydraddoldebau a hawliau dynol: Dylai fod gan y staff ddealltwriaeth dda o’r model cymdeithasol o anabledd (a’i oblygiadau ar gyfer terminoleg er enghraifft), y Ddeddf Hawliau Dynol, agenda cydraddoldebau.  Dylen ni gydnabod y bydd angen diweddaru’r meysydd allweddol hyn wrth i bethau symud ymlaen ac wrth i’r staff newid.

Mae hyn yn gysylltiedig hefyd â’r gofyniad yn y Ddeddf bod rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn yn ei holl weithgareddau.

  • yn gydweithredol:  Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill fel y bo’n briodol i osgoi dyblygu diangen, ac i wneud y defnydd gorau ar ynni ac adnoddau.

(Gwerthoedd mewnblyg)

  • yn gallu rheoli risg yn dda: Rydyn ni’n deall bod rhywfaint o risg fwriadol yn hanfodol er mwyn inni weithio’n llwyddiannus.  Mae angen i reolaeth risg ardderchog gael ei phlannu’n gadarn yn y diwylliant a dylai cynnal asesiadau risg ddod yn ail natur i’r staff ar bob lefel.  Byddwn yn ymwybodol o risg ac nid yn wrth-risg.
  • yn sicrhau gwerth am arian: Byddwn yn effeithlon o ran adnoddau.
  • yn cydymffurfio â’r gyfraith: Byddwn yn gwbl ymwybodol o’n cyfrifoldebau dros gydymffurfio â’r gyfraith fel corff cyhoeddus, ac yn cyflawni’r cyfrifoldebau hyn, gan gymryd bod dilyn arferion da, a’u datblygu yn ôl yr angen, yn rhan ganolog o’n gwaith.
  • yn lle gwych i weithio:  Bydd staff y Comisiwn yn allweddol ar gyfer ei lwyddiant a bydd y Comisiwn yn adlewyrchu’r arferion gorau yn ei bolisi a’i arferion ei hun, gan hybu a gwerthfawrogi cyraeddiadau, a bod yn hyblyg yn ei ddulliau ac yn ymwybodol o gydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • yn sefydliad sy’n dysgu:  Byddwn yn ceisio dysgu oddi wrth ein profiadau, cadarnhaol a negyddol, gan chwilio am ffyrdd cadarnhaol ymlaen yn wyneb heriau, gan fonitro a gwerthuso’r hyn rydyn ni’n ei wneud a rhoi hwb i ddatblygu proffesiynol parhaus.

Bydd angen cyfeirio at y gwerthoedd hyn yn aml er mwyn iddyn nhw fod yn effeithiol, ac fe fyddan nhw’n rhan o’r ymsefydlu, ac yn rhestr wirio ar gyfer gwaith cynllunio a gwerthuso.  Byddan nhw’n bwydo’n mesurau perfformiad. 

Mae’r gwerthoedd uchod wedi’u bwydo gan sylwadau pobl hŷn, gan gynnwys:

  • ‘Er mwyn ennill parch mae’n rhaid ichi roi parch’ 
  • ‘Rhaid i’r Comisiwn sicrhau ei fod yn annibynnol’
  • ‘Mae angen ichi ofalu na fydd y gair pencampwr yn cael ei israddio’
  • ‘Os na cheisiwch chi wneud gormod, gallwch gyrraedd eich targedau’
  • ‘Mae angen i’r Comisiwn ennill cefnogaeth cynifer o bobl â phosibl’
  • ‘Mae angen i bobl siarad mewn iaith gyffredin’
  • ‘Daliwch ati i gyfathrebu drwy’r cyfryngau, i wrando, ac i rannu hyn’
  • ‘Peidiwch â rhoi cyfle i bobl ddweud ‘pam?’
  • ‘Helpwch y mwyaf o bobl â’r lleiaf o ymdrech’

Allbynnau

Dyma’r mathau o allbynnau ar gyfer y Comisiwn a nodwyd yn y Ddeddf:

  • Cynnal adolygiadau
  • Llunio adroddiadau
  • Canllawiau ar yr arferion gorau i gyrff penodol
  • Gwneud argymhellion
  • Ymchwil a gweithgareddau addysgol
  • Helpu pobl hŷn i gyflwyno cwynion a sylwadau (lle bo hyn yn cael ei wneud mewn achosion cyfreithiol penodol megis achosion llys neu dribiwnlys, dim ond os oes goblygiadau ehangach i’r achos). 
  • Mynd i fangreoedd a chyf-weld â phobl hŷn
  • Cyflwyno sylwadau
  • Archwilio achos unigol sydd â goblygiadau ehangach

Caiff meini prawf i arwain y gwaith dethol eu sefydlu heblaw’r rhai sydd yn y Ddeddf.  Bydd y rhain bob amser yn cynnwys elfen o bwyso a mesur (hynny yw fydd hyd yn oed y rhestr o feini prawf ddim yn dweud yn sicr a fydd y Comisiynydd yn penderfynu gweithredu mewn achos penodol.  Mae’n hanfodol cadw disgresiwn y Comisiynydd). 

  • Adroddiad blynyddol i Brif Weinidog Cymru, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi

Deilliannau

  • Mwy o ymwybyddiaeth o fuddiannau pobl hŷn
  • Llai o wahaniaethu ar sail oed
  • Gwell gwasanaethau
  • Cyfreithiau mwy effeithiol

Gweithgareddau Craidd

Dyma’r rhai rydyn ni’n eu rhag-weld ar hyn o bryd:

  1. Ymgysylltu â phobl hŷn
  2. Gwybodaeth ac ymholiadau sy’n dod i mewn
  3. Polisi ac ymchwil 
  4. Adolygu ac archwilio 
  5. Cyfathrebu 
  6. Llywodraethu corfforaethol/rheoli risg 
  7. Cyllid
  8. Technoleg Gwybodaeth 
  9. Adnoddau Dynol 
  10. Rheoli’r swyddfa 

Ar gyfer pob un o’r uchod rydyn ni wedi dynodi arweinydd/arweinwyr a bydd cynllun gweithredol yn cael ei ddatblygu.

Swyddogaethau a Gweithgareddau

Mae’r gweithgareddau craidd yn gwasanaethu swyddogaethau’r Comisiwn a byddwn yn trefnu gweithgareddau o dan y swyddogaethau fel a ganlyn.  Mae elfen o orgyffwrdd rhwng llawer o’r rhain, wrth reswm. Ar hyn o bryd, yn nyddiau cynnar y gwaith datblygu, mae’r gweithgareddau bras sydd wedi’u henwi fel ‘cyfathrebu’, ‘ymgysylltu â phobl hŷn’, ‘adolygu ac archwilio’ a ‘pholisi ac ymchwil’ yn dod o dan bob un o’r pedair swyddogaeth gyntaf ac mae rhai yn dod o dan bob un o’r pump. Bydd y cynlluniau gweithredol manylach ar gyfer y rhain yn cyfeirio’n agosach at y swyddogaethau penodol, ac wrth i’r sefydliad ddatblygu ei allu byddem yn disgwyl i fwy o wahaniaethau a ffrydiau gwaith penodol ddod i’r amlwg ar gyfer swyddogaethau 1-4. Er hynny, mae bob amser yn debyg o fod yn wir y bydd gweithgareddau’n ateb sawl swyddogaeth, ac yn wir fe allai hyn fod yn faen prawf ar gyfer rhoi blaenoriaeth i ddarn penodol o waith.

1.  Hybu ymwybyddiaeth o fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru

  • Cyfathrebu (hefyd 1-5)
  • Ymgysylltu â phobl hŷn (hefyd 1-5)
  • (Adolygu ac archwilio)*
  • (Polisi ac ymchwil)*

2.  Hybu darpariaeth cyfleoedd i bobl hŷn yng Nghymru, a dileu gwahaniaethu yn eu herbyn (hybu diwedd ar wahaniaethu ar sail oed)

  •  (Cyfathrebu)*
  • (Ymgysylltu â phobl hŷn)*
  • (Adolygu ac archwilio)*      
  • (Polisi ac ymchwil)*

3.  Hybu arferion da wrth ymdrin â phobl hŷn yng Nghymru (hybu arferion da)

  • Adolygu ac Archwilio (hefyd 1-4)
  • Polisi/ymchwil (hefyd 1-4)
  • (Cyfathrebu)*
  • (Ymgysylltu â phobl hŷn)*

4.  Adolygu pa mor ddigonol ac effeithiol yw’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru (adolygu’r gyfraith)

  • (Cyfathrebu)*
  • (Ymgysylltu â phobl hŷn)*
  • (Adolygu ac archwilio)*      
  • (Polisi ac ymchwil)*

5.  Caniatáu i swyddogaethau 1-4 yn y rhestr uchod gael eu cyflawni mewn ffyrdd sy’n briodol ac yn rheolaidd, yn ddoeth ac yn ddarbodus, sy’n defnyddio adnoddau yn effeithlon ac yn effeithiol ac sy’n adnabod ac yn rheoli risgiau. (cyflawni’r swyddogaethau yn effeithlon ac yn effeithiol)

  • Technoleg Gwybodaeth
  • Adnoddau Dynol
  • Rheoli’r swyddfa
  • Cyllid
  • Llywodraethu corfforaethol/rheoli risg
  • Gwybodaeth ac ymholiadau sy’n dod i mewn
  • (Cyfathrebu)*
  • (Ymgysylltu â phobl hŷn)*

* Gan y bydd nifer o’r gweithgareddau’n ateb mwy nag un o’r swyddogaethau, neu mewn rhai achosion y cyfan o’r swyddogaethau, mae’r gweithgaredd wedi’i osod o dan y swyddogaeth y mae’n perthyn iddi’n fwyaf mewn testun Rhufeinig, ac mewn testun italig mewn cromfachau o dan y rhai eraill y mae’n eu gwasanaethu mewn ffordd sylweddol hefyd.

Sefydlu’r Comisiwn

Ymgymerodd y Comisiynydd â phwerau ei swydd ym mis Ebrill 2008.  I ddatblygu’r gallu i arfer y pwerau hyn yn llawn, er enghraifft mewn perthynas ag adolygu ac archwilio, bydd angen amser ac ymchwilio’n dechnegol i’w cwmpas a’u natur gan gymryd penderfyniadau am flaenoriaethau a methodoleg.  Bydd yn hanfodol defnyddio’r adnoddau yn y modd gorau posibl.  Mae’r galw posibl ar ein hadnoddau cyfyngedig yn sylweddol. Bydd yn bwysig iawn rheoli disgwyliadau pobl hŷn ac eraill, a hynny yn ystod cyfnod sefydlu’r Comisiwn ac yn y dyfodol.  Rydyn ni’n edrych ar gyfnod y Comisiwn hyd at ddiwedd Medi 2008 fel y cyfnod sefydlu cyntaf, pan gafodd swyddfa barhaol ei sefydlu a rhywfaint o’r staff eu penodi. Cafodd gwaith helaeth i bwyso a mesur hyd a lled pwerau’r Comisiynydd ei orffen ar ddiwedd Tachwedd 2008.

Rydyn ni’n cymryd bod yna ail gyfnod sefydlu, yn rhedeg rhwng Hydref 2008 ac Ebrill 2009. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r cynllun strategol interim hwn wedi’i bennu ac mae swyddogion yn cael eu recriwtio i amryw o swyddi sy’n ymwneud â phwerau’r Comisiynydd. Byddwn yn gwneud rhagor o ymchwil ac yn datblygu mwy o allu mewn perthynas â phwerau’r Comisiwn.  Byddwn yn mynd ymhellach i ddiffinio’r gofod unigryw y mae angen i’r Comisiwn ei feddiannu o’i gymharu â chyff eraill sy’n gweithredu yng Nghymru, er mwyn sicrhau ein bod yn ychwanegu gwerth ac nad ydyn ni’n dyblygu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud. Bydd y cyfnod hwn yn cynnwys sefydlu strwythur staffio amlinellol i’r Comisiwn a nifer o gyfnodau recriwtio. 

Y Pwyllgor Archwilio

Fel rhan o sefydlu’r Comisiwn, rydyn ni wedi sefydlu Pwyllgor Archwilio.  Caiff hyd a lled gwaith y Pwyllgor Archwilio ei ddiffinio yn ei gylch gorchwyl a bydd yn cynnwys holl anghenion y Swyddog Cyfrifyddu o safbwynt sicrwydd. O fewn hyn, bydd y Pwyllgor Archwilio yn ymwneud yn benodol â gwaith Archwilio Mewnol, gwaith yr Archwilydd Allanol a materion ynglŷn ag adroddiadau ariannol.

Staffio

Bydd y Comisiwn yn penderfynu ar y staffio yng ngoleuni ei flaenoriaethau strategol.  Byddwn yn cydbwyso’r angen  i ddatblygu gallu yn y cyfnod hirach i gyflawni’n swyddogaethau â’r angen i gadw mesur o hyblygrwydd.  Yn y tymor byrrach mae arnon ni angen hyblygrwydd i ymateb i’r hyn y byddwn yn ei ddysgu am ein pwerau a’n blaenoriaethau, gan gydnabod ein bod ni wrthi’n datblygu’r Comisiwn Pobl Hŷn cyntaf yn y byd ac y bydd angen inni fod yn arloesol yn ein hymagwedd a chaniatáu i’r staffio a’r medrau gael eu pwysoli i adlewyrchu datblygiadau yn ein blaenoriaethau.  Byddwn yn ymgysylltu â phobl mewn amryw o ffyrdd gwahanol gan gynnwys drwy secondio a chontractau am gyfnodau gosod.  Mae angen hefyd inni feithrin diwylliant gweithio cadarnhaol a medrau ac arbenigedd penodol yn ein sefydliad, ac ar gyfer y rhain bydd angen staffio ar gyfer tymor hirach.  Yn y tymor hirach rydyn ni’n credu y bydd angen cadw hyblygrwydd i ddod ag arbenigwyr i mewn o’r tu allan i’r Comisiwn, o Gymru, o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig a’r tu hwnt, er enghraifft i helpu gydag adolygiadau neu archwiliadau penodol. 

Byddwn yn nodi’r medrau allweddol y bydd eu hangen i ddatblygu gwaith y Comisiwn ac yn nodi’r swyddi y mae angen recriwtio ar eu cyfer fel blaenoriaeth yn gynnar yn 2009.

Staffio

Mae cyllideb y Comisiwn yn cael ei phennu’n flynyddol yn unol â gofynion y Ddeddf a’i seilio ar ddyraniad ariannol Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Mae gan y Comisiynydd gyllid amlinellol am dair blynedd:

2008-2009: £1.5 miliwn

2009-2010: £1.7 miliwn

2010-2011: £1.8 miliwn

Rydyn ni’n rhag-weld y bydd y costau staffio a’r costau sefydlog eraill yn cyfrif am gyfran o gyllideb y Comisiwn gan adael cyfran arwyddocaol, ond nid y rhan fwyaf, heb ei dyrannu. Gall hon gael ei defnyddio’n hyblyg i ymateb i newidiadau mewn anghenion a blaenoriaethau.

Bob mis Hydref mae’n ofynnol i’r Comisiynydd gyflwyno amcangyfrif ffurfiol i’r Dirprwy Weinidog sy’n nodi ei chynigion ar gyfer lefel y cyllid y bydd arni ei hangen a sut y bydd yn ei ddefnyddio yn y flwyddyn sy’n dod i gyflawni ei swyddogaethau statudol.

Trefniadau Monitro a Gwerthuso

Byddwn yn sefydlu’r gwaith monitro y bydd ei angen i olrhain deilliannau ac i werthuso’n gwaith yn effeithiol.  Bydd adroddiadau’n cael eu llunio, gan yr holl staff, yn erbyn pum swyddogaeth y Comisiwn.

Mae gan y Pwyllgor Archwilio rôl mewn craffu ar waith y Comisiwn, ei gefnogi a’i herio a bydd ganddo ran i’w chwarae wrth werthuso’n gwaith. 

O dan delerau’r Ddeddf, Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd allanol y Comisiynydd a bydd yn archwilio ac yn ardystio’r cyfrifon blynyddol a gyflwynir iddo bob blwyddyn ac yn cyflwyno adroddiad arnyn nhw.

Mae’r Comisiynydd wedi penodi Bentley Jennison yn archwilwyr mewnol a fydd yn ymgymryd â rhaglen y cytunir arni o adolygiadau o systemau, llywodraethiant a threfniadau risg mewnol y Comisiwn.

Bydd datblygiad a gwaith y Comisiwn yn cael eu gwerthuso’n allanol.

Risg

Mae ymarfer asesu risg cychwynnol wedi’i gynnal er mwyn creu cofrestr risgiau; caiff hon ei hadolygu’n rheolaidd gan yr Uwch Dîm Rheoli a’i chyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio yn 2009.

Bydd rheolaeth risg yn cael ei phrif-ffrydio yn yr holl swyddogaethau a gweithgareddau.

Amserlen Gynllunio

Bydd y Comisiwn yn sefydlu amserlen dreigl ar gyfer adolygu ei gynllun strategol a’i gynllun gweithredu a chytuno arnyn nhw, gan gynnwys y rhanddeiliaid yn hyn o beth fel y bo’n briodol. Bydd yr amserlen yn cysylltu â’r dyddiadau allweddol ar gyfer adroddiadau a sefydlwyd yn y Ddeddf:

Y Chwarter Cyntaf: adolygu gwaith y flwyddyn ariannol flaenorol gan ddefnyddio amryw o ddulliau, gan adeiladu ar waith monitro’r flwyddyn, gan gynnwys mesurau ar gyfer y deilliannau.  Cynnwys y Pwyllgor Archwilio, pobl hŷn a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Yr Ail Chwarter: diwygio/datblygu’r cynlluniau at y flwyddyn ariannol ganlynol.  Cynnwys y Pwyllgor Archwilio, pobl hŷn a rhanddeiliaid allanol allweddol eraill.

Y Trydydd Chwarter: Cyflwyno’r adroddiad blynyddol i’r Senedd ac i Brif Weinidog Cymru erbyn 1 Hydref.  Bydd yr adroddiad hwn yn ymdrin â’r flwyddyn ariannol flaenorol, hynny yw mis Ebrill i fis Mawrth.

Y Trydydd Chwarter: Cyflwyno blaengynllun gwaith ac amcanestyniadau ariannol i Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf erbyn 31 Hydref.

Y Gymraeg

Mae Comisiwn Pobl Hŷn Cymru yn cefnogi’r egwyddor a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, ar y sail eu bod yn gyfartal.  Gan hynny, mae Comisiwn Pobl Hŷn Cymru wedi cynhyrchu polisi.

 


[1] Byddwn yn datblygu’n syniadau ar gwestiwn bod yn agored i niwed: hynny yw gall pawb fod yn agored i niwed ar wahanol adegau, am wahanol resymau: mae angen inni ddysgu’r wers o’r model cymdeithasol o anabledd ac edrych ar yr amgylchiadau o gwmpas person sy’n ei wneud yn agored i niwed, yn hytrach na disgrifio’r nodwedd o fod yn agored i niwed fel pe bai’n perthyn i’r person.  Er enghraifft, gall person hŷn sydd ag adnoddau ac sydd fel rheol yn huawdl ac yn annibynnol fynd yn agored i niwed ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty, bod ar ward ers rhai wythnosau, a chanddo broblemau iechyd bellach ac arno angen cymorth i fynd yn ôl adre lle mae’n dymuno bod, ac eto i gyd o dan bwysau i wagio’r gwely a symud i ofal preswyl.  Gall person fod yn agored i niwed yn sgil pwysau teuluol ac yn agored i gamdriniaeth ariannol er nad oedd felly o’r blaen wrth fynd yn fwy eiddil ac ynysig.