-

Cynhaliodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru gynhadledd ar Wasanaethau Gwybodaeth a Chyngor i Bobl Hŷn ar 26 Ionawr 2012 yng Nghaerdydd. Mae’r adroddiad yma yn cynnwys y prif bynciau a godwyd ac a drafodwyd yn ystod y dydd, gan gynnwys dyfyniadau gan y cynadleddwyr.
-

Dyma Newyddlen Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, gyda’r newyddion diweddaraf am waith y Comisiwn dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
-

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a’i staff wedi ymrwymo i fod yn gwbl gefnogol i’r Ddeddf Cydraddoldeb ac maent yn anelu at gynnwys y Ddeddf ym mhopeth mae’r Comisiwn yn ei wneud. Hefyd, mae’r Comisiwn wedi’i rwymo’n gyfreithiol i ddarparu Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy’n cynnwys Amcanion Cydraddoldeb y bydd rhaid i’r Comisiwn gyflawni yn eu herbyn mewn cylchoedd o bedair blynedd. Mae gan y Comisiwn ddyletswydd i adrodd yn ôl ar gynnydd yn flynyddol.
-

Mae’n tynnu sylw at gynnydd a champau’r 18 mis cyntaf ac yn pwyso a mesur yr heriau allweddol a’r pwyntiau dysgu a gafwyd ar hyd y ffordd. Erbyn hyn mae’r adroddiad yma ar gael fel adnodd i helpu eraill a allai ddysgu oddi wrth brofiadau’r Comisiwn.
-

Dyma Newyddlen Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, gyda’r newyddion diweddaraf am waith y Comisiwn dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
-
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am annog, hybu a helpu i sefydlu un ymagwedd ledled Cymru at eiddilwch, a honno’n arwain at newid cadarnhaol ym mywydau pobl hŷn.
-

Diben yr astudiaeth hon yw nodi darlun eang y gwasanaethau gwybodaeth a chyngor i bobl hŷn yng Nghymru a bwydo gwaith y Comisiwn yn y maes hwn. Mae'n cymryd i ystyriaeth y gwerthoedd sy'n sail i swyddogaethau'r Comisiwn a gweithgareddau perthynol y Comisiwn a'i bartneriaid.
Mae'r astudiaeth yn adolygu‟r ymchwil gefndir sy'n ymwneud â gwasanaethau gwybodaeth a chyngor i bobl hŷn ac yn nodi safonau a modelau o arferion da wrth gynllunio a chyflwyno gwasanaethau i bobl hŷn. Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddisgwyl gan wasanaethau gwybodaeth a chyngor ac i ba raddau y mae'r gwasanaethau presennol yn diwallu eu gofynion, yn enwedig gofynion pobl hŷn sydd mewn perygl o gael niwed.
-

-
I Lawrlwytho Newyddlen Hydref 2011
-

Mae Adroddiad y Comisiynydd ar gyfer 2010-11, sy’n manylu ar yr ystod eang o waith a wnaed gan y Comisiwn Pobl Hŷn yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac yn amlinellu’r cynlluniau a’r blaenoriaethau sydd gen i at y dyfodol.