| Mae’r ffioedd sy’n gymwys ar gyfer gwybodaeth a ddarperir o dan y Cynllun Cyhoeddi hwn wedi’u nodi yn ein Polisi ar Weld Gwybodaeth. Yn achos ceisiadau o dan yr hawl gyffredinol i weld gwybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ein polisi cyffredinol yw peidio â chodi tâl am wybodaeth heblaw i adennill cost postio, pacio, argraffu a llungopïo os yw hynny’n fwy na £10. Eithriad arall yw os bydd yr amcangyfrif o gost coladu’r wybodaeth yn fwy na £450, yn unol â’r diffiniad yn y rheoliadau ar godi taliadau sydd wedi’u nodi o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mewn achosion o’r fath, caiff y costau eu cyfrifo yn unol â’r rheoliadau hynny, a bydd y ceisydd yn cael gwybod faint y byddai angen iddo ei dalu. Bydd yr amser sy’n cael ei gofnodi i ateb y cais yn rhedeg o’r dyddiad y bydd y ceisydd yn cadarnhau ei fod am fwrw ymlaen â’r cais a bod y taliad angenrheidiol wedi dod i law ac wedi’i glirio gan fanc y ceisydd. Yn achos ceisiadau gan destunau am weld gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, ein polisi ar hyn o bryd yw codi’r swm safonol, sef £10. |