Beth yw'n blaenoriaethau a sut sudyn ni'n dod ymlaen

3.1 Cynlluniau Strategol

  • Cynllun Strategol 2010-2013

    01.1.10

    Yr egwyddor sy’n fy arwain i yn rhinwedd fy swydd fel Comisiynydd Pobl Hyˆn annibynnol yw gwrando ar yr holl bobl hyˆn ledled Cymru a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw. Bu pobl hyˆn a llawer o sefydliadau’n gweithio’n galed i sefydlu Comisiynydd, sydd â phwerau unigryw er lles pobl sy’n 60 oed a throsodd.

  • Y Comisiwn Pobl Hŷn Cynllun Strategol Interim 2009-2010

    01.1.09

    Bydd y cynllun hwn yn nodi diben a chyfeiriad cychwynnol y Comisiwn Pobl Hŷn, gan gydnabod ei safle unigryw yn ystod ei gyfnod sefydlu a’r angen i esblygu a datblygu’n syniadau dros y misoedd sy’n dod.

3.2 Adroddiadau Blynyddol

  • Aroddiad y Comisiynydd 2010-11 a gyhoeddwyd

    30.9.11

    Mae Adroddiad y Comisiynydd ar gyfer 2010-11, sy’n manylu ar yr ystod eang o waith a wnaed gan y Comisiwn Pobl Hŷn yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac yn amlinellu’r cynlluniau a’r blaenoriaethau sydd gen i at y dyfodol.

  • Adroddiad y Comisiynydd 2009/2010

    01.10.10

  • Adolygiad Blynyddol 2008/2009

    01.10.10

    Cafodd rôl Comisiynydd Pobl Hyˆn Cymru ei chreu gydag ystod o bwerau i helpu i wella bywydau pobl hyˆn yng Nghymru. Dyma’r Comisiwn cyntaf o’i fath yn y byd ac rydyn ni’n arloesi gwaith a all gael ei ddilyn yn rhyngwladol. Bu llawer o grwpiau ac unigolion yn gweithio’n galed i ddod â’r swydd annibynnol hon i fodolaeth, ac mae pwerau’r Comisiynydd yn adlewyrchu eu bwriad difrifol, sef herio’r rhwystrau a’r gwahaniaethu sy’n wynebu pobl hyˆn.

  • Adroddiad Cyntaf Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2008

    01.10.08

    Lansiodd y Comisiwn Dod i Oed, ei adroddiad cyntaf i Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, ar 1 Hydref 2008, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig. Roedd Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 yn gofyn am i adroddiad gael ei gyhoeddi ar yr adeg hon, ond gan nad oedd Comisiwn Pobl Hŷn Cymru wedi bodoli am flwyddyn gyfan, dydy’r adroddiad ddim eto yn cynnwys y datganiadau ariannol a chorfforaethol nodweddiadol y byddech yn disgwyl eu gweld mewn Adroddiad Blynyddol.

Ffon: 08442 640670 | E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com

Web Design WalesWebsite designed by Comgem.