Cynllun Cyhoeddi
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi mabwysiadu cynllun cyhoeddi enghreifftiol Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sy’n annog sefydliadau i fynd ati i ryddhau gwybodaeth i’r cyhoedd.
Mae’r cynllun cyhoeddi sydd wedi’i fabwysiadu yn nodi’r mathau o wybodaeth yr ydyn ni’n trefnu eu bod ar gael fel rhan o’r drefn o dan y saith dosbarth gwybodaeth a ganlyn:
Yn cynnwys gwybodaeth am Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a’i phwerau yn y ddeddfwriaeth, proffiliau’r staff uwch, rolau’r timau, ein perthynas â sefydliadau eraill a manylion cysylltu
Yn cynnwys gwybodaeth am gyfrifon archwiliedig Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac argaeledd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; treuliau, strwythurau tâl a graddfeydd, gweithdrefnau caffael a dogfennau ariannol eraill.
Yn cynnwys adroddiadau blynyddol ac adolygiadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ynghyd â dogfennau strategol y Comisiwn at y tymor hirach
Yn cynnwys gwybodaeth am ein penderfyniadau ar bolisïau a chynigion o bwys, ymatebion ymgynghori cyhoeddus a’r cyfle i weld cofnodion cyfarfodydd lefel uchel.
Yn cynnwys gwybodaeth am sut mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru’n cynnal busnes ac yn darparu gwasanaethau, recriwtio a chyflogi staff, safonau gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli cofnodion a manylion ffioedd posibl wrth ofyn am wybodaeth benodol oddi wrth Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Yn cynnwys gwybodaeth am weld rhestrau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o fuddiannau, gan gynnwys y gofrestr rhoddion a lletygarwch.
Yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, gan gynnwys hysbysiadau i’r cyfryngau, taflenni, llyfrynnau, cylchlythyrau cyngor a chanllawiau, digwyddiadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a’n cyfrifoldebau ym maes rheoleiddio.