Aeth Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Ruth Marks, ynghyd â Chomisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, i gyfarfod â Carwyn Jones AC ar 21 Ionawr 2010 am y tro cyntaf ers iddo ymgymryd â’i swydd newydd fel Prif Weinidog Cymru. Diben y cyfarfod oedd caniatáu i’r ddau Gomisiynydd godi pryderon pobl ifanc a phobl hŷn Cymru.