Ers imi gael fy mhenodi ym mis Ebrill 2008, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth gan bobl hŷn a llawer o dystiolaeth o ffynonellau eraill. Erbyn hyn, rwyf wedi cael cyfle i fwrw golwg ar yr wybodaeth sydd wedi dod i law a phwyso a mesur rhychwant fy mhwerau cyfreithiol, ac rwyf wedi dod i benderfyniad ynghylch maes fy adolygiad cyntaf.
Mae’n dda gen i gyhoeddi maes fy Adolygiad Cyntaf, sef pobl hŷn mewn sefydliad gofal iechyd neu ofal cymdeithasol ac a ydyn nhw’n cael eu trin ag urddas a pharch. Hoffwn sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu diogelu. Mae’r Comisiwn yn unigryw am ein bod yn gallu cynnal adolygiadau a gwneud argymhellion ar gyfer newid ar sail profiadau pobl hŷn.
Rwyf wedi cynhyrchu ffilm fideo fer gyda gwahoddiad i gymryd rhan gyda mi i benderfynu ar union ganolbwynt yr adolygiad hwn, yn http://www.olderpeoplewales.com/index.php?id=436
Byddaf yn trefnu bod rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch manylion yr adolygiad ar ddiwedd mis Mawrth 2010.
Rwy’n edrych ymlaen at glywed gennych.
Yn gywir,