Mae Comisiwn y Gyfraith wrthi’n adolygu’r gyfraith ynghylch Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac mae’n chwilio am sylwadau ar ei gynigion, sydd i’w cyhoeddi ym mis Chwefror.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cydweithio â Chomisiwn y Gyfraith ac Age Concern Cymru a Help the Aged yng Nghymru i gynnal digwyddiad i drafod effaith y gyfraith gyfredol ar bobl hŷn a syniadau ynghylch goresgyn yr heriau hyn. Dyma’ch cyfle chi i ddylanwadu ar siâp y gyfraith ynghylch gofal cymdeithasol i oedolion yn y dyfodol.
Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at unrhyw un sydd â buddiannau yn y maes hwn gan gynnwys pobl hŷn, gofalwyr a gweithwyr y rheng flaen. Mae gennyn ni amrywiaeth o siaradwyr a fydd yn esbonio’r gyfraith gyfredol, beth bynnag fo lefel eich gwybodaeth bresennol.
Bydd cyfres o grwpiau trafod er mwyn ichi gael cyfle i drafod syniadau yn fanylach.
I gofrestru diddordeb mewn dod i’r gynhadledd, anfonwch neges e-bost at Ceri yn ceri.gilg@olderpeoplewales.com neu ffoniwch 08442 640670.
Os ydych yn adnabod unrhyw un a allai fod â diddordeb yn y gynhadledd, anfonwch y gwahoddiad yma ymlaen atyn nhw.