Newyddion

8 Ionawr 2010 - Ymateb y Comisiynydd i’r tywydd presennol

 

Erbyn hyn, mae Cymru’n dioddef eira a rhew ers tro byd ac mae’r rhagolygon yn awgrymu y gallai’r tywydd oer barhau am beth amser eto.

Mae’r cyngor i’r cyhoedd yn argymell y dylai pobl aros gartref os oes modd. Rydyn ni’n ategu’r cyngor hwnnw yn llwyr, yn enwedig o gofio y gallai’r tywydd gwael ddigwydd eto ddydd Mawrth a dydd Mercher.  Rhaid cofio y bydd rhai pobl hŷn wedi bod o dan do ers amser maith oherwydd y cyfnod hir o dywydd oer.  Mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio ac yn cynllunio ar gyfer tywydd oer yn y dyfodol er mwyn i bobl fynd allan a symud o gwmpas yn ddiogel.  Bydd y Comisiynydd yn siarad â’i phartneriaid am yr heriau y mae pobl hŷn wedi’u hwynebu yn ystod y cyfnod hwn a sut y gallwn gynllunio’n well ar eu cyfer yn y dyfodol.

Mae angen i bob un ohonon ni:

  • Gadw’n gynnes
  • Cadw’n ddiogel
  • Cadw mewn cysylltiad

Mae yna fwy o tywydd oer, cyngor ar gael yma.

Mwy o gyngor ar gael yma.

Wrth gwrs, fydd llawer o bobl hŷn ddim yn teimlo eu bod yn agored i niwed, ac mae llawer yn gwneud cyfraniad hollbwysig, gan helpu mewn llawer o ffyrdd ymarferol yn eu hardal eu hunain.   Hoffem gydnabod yr ysbryd cyhoeddus sy’n cael ei amlygu a’r gwaith gwych rydyn ni’n clywed amdano lle mae cymunedau, y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus yn cydweithio i helpu pobl i aros yn ddiogel. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys helpu i sgubo eira oddi ar balmentydd a llwybrau, mynd i siopa a choginio i bobl y mae arnyn nhw angen cymorth.  Yn aml, mae pobl hŷn yn wirfoddolwyr ffurfiol neu anffurfiol yn eu cymuned ac yn helpu i gydlynu’r ymateb i’r tywydd garw.

Mae Comisiwn Pobl Hŷn Cymru yn gofidio bod y tywydd oer yn effeithio’n benodol ar bobl hŷn sydd mewn sefyllfa sy’n agored i niwed, er enghraifft ei chael yn anodd mynd allan a chynhesu eu cartrefi.  Bydd llawer o bobl hŷn yn poeni ynghylch talu eu biliau tanwydd i gynhesu eu cartrefi.  Rydyn ni wedi galw ar y Llywodraeth i gymryd camau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a hybu’r Taliad Tanwydd Gaeaf ychwanegol. Dim ond i’r rhai sy’n hawlio Credyd Pensiwn y bydd y Taliad Tywydd Oer o £25 yn cael ei dalu, ac rydyn ni’n gwybod bod y niferoedd sy’n hawlio’r budd-dal hwnnw yng Nghymru gryn dipyn yn rhy isel.  Mae gwybodaeth i bobl hŷn, yn eu hannog i hawlio’r budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl i’w cael, yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd. 

Gwybodaeth defnyddiol