Taliadau Tywydd Oer

Os ydych chi’n cael Credyd Pensiwn neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, neu os oes gennych chi Bremiwm Pensiynwr, efallai fod gennych chi hawl i gael Taliadau Tywydd Oer.

Os ydych chi’n gymwys, mae taliad ychwanegol yn cael ei wneud am bob wythnos gyflawn pan fydd y tywydd yn oer iawn. Does dim rhaid ichi wneud cais, gan fod y taliadau o £25 yr wythnos yn cael eu sbarduno’n awtomatig os bydd y tymheredd yn gostwng o dan y rhewbwynt am saith diwrnod o’r bron.

Y Swyddfa Dywydd sy’n gyfrifol am benderfynu a ydy’r tymheredd wedi gostwng o dan y rhewbwynt neu beidio. Mae’r taliadau yn dibynnu ar eich cod post, gan fod pob cod post wedi’i gysylltu ag un o orsafoedd tywydd penodol y Swyddfa Dywydd.

Gallwch weld a ydy’ch ardal chi am gael Taliadau Tywydd Oer neu beidio, drwy roi’ch cod post i mewn i wefan Directgov.

Mae’r taliadau hyn yn ychwanegol at y Lwfans Tanwydd Gaeaf, sy’n cael ei dalu i bawb sy’n 60 oed a throsodd a fyddan nhw ddim yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau neu hawliau eraill.

Os nad ydych chi wedi cael taliadau tywydd oer yn awtomatig a’ch bod yn credu eich bod yn gymwys, cysylltwch â Chanolfan Byd Gwaith:

Ffôn: 0800 055 6688 (8am - 6pm dydd Llun i ddydd Gwener).

Mae gwasanaeth ffôn testun ar gael os oes gennych chi nam ar eich lleferydd neu’ch clyw: 0800 023 4888.