Un o’r materion allweddol y mae pobl hŷn wedi’i godi gyda’r Comisiwn yw her byw ar incwm gosod. Mae pobl hŷn a sefydliadau pensiynwyr yn parhau i bwyso am gynnydd arwyddocaol ym mhensiwn sylfaenol y wladwriaeth, ac yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni mae’n bwysicach nag erioed bod pobl hŷn yn gwneud cais am y budd-daliadau ariannol y mae ganddyn nhw hawl i’w cael.
Gyda hynny mewn golwg, ymgymerodd y Comisiwn â phrosiect mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Pensiwn a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ystod haf 2009.
Gallai hawlio budd-daliadau ar y lefel gywir olygu bod pobl yn gallu fforddio byw bywyd iachach a mwy annibynnol. Mae budd-daliadau’n helpu pobl i dalu i gynhesu eu cartrefi, i fwyta’n iach ac i fynd allan a symud o gwmpas.
Hoffai’r Comisiwn annog pobl hŷn i gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn a gofyn am gyngor ynghylch pa fudd-daliadau y gallai fod ganddyn nhw hawl i’w cael.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Gwasanaeth Pensiwn:
Ffôn: 0845 60 60 275
Ffôn Testun: 0845 60 60 295
I gael gwasanaethau Saesneg: 0845 60 60 265
Ffôn Testun: 0845 60 60 285
Cafodd cynllun peilot ei gynnal ar y cyd i anfon llythyr gan y Comisiynydd at bawb o oedran pensiwn yn ardal Gwynedd.
Tri phrif nod oedd i’r pecyn peilot:
Roedd y pecyn, a gafodd ei anfon at gyfanswm o fwy na 24,000 o bobl hŷn, hefyd yn cynnwys taflen ac arni fanylion cysylltu defnyddiol sefydliadau a allai fod o gymorth i bobl hŷn, sef:
Mae’r Comisiwn wedi cael llawer o enghreifftiau o adborth cadarnhaol gan bobl hŷn a alwodd i ddiolch i ni am gysylltu â nhw, am sicrhau eu bod yn gwybod am y Comisiynydd ac am godi ymwybyddiaeth o wneud cais am fudd-daliadau y gall fod ganddyn nhw hawl i’w cael.
Ychydig cyn i’r pecyn gael ei anfon, aeth y Comisiynydd i nifer o ddigwyddiadau gyda’r Gwasanaeth Pensiwn. Cafodd digwyddiad ar y cyd ym Mhorthmadog ei drefnu drwy gydweithredu â Chydlynydd Strategaeth Pobl Hŷn Gwynedd gan ddod â sefydliadau lleol a phobl hŷn o’r ardal gyfan at ei gilydd. Daeth tua 120 o bobl hŷn ynghyd a chael gwybodaeth ddefnyddiol am amryw o bynciau gan gynnwys sut i gadw llygad ar faint o ynni sy’n cael ei ddefnyddio yn y cartref ac â phwy y dylen nhw gysylltu i gael cyngor yn yr ardal leol.