Anghenion Gweithredu
Mae Anghenion Gweithredu’r Comisiynydd yn amlinellu’n eglur bod angen newid i wella ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal o gwmpas Cymru.
Mae’r Comisiynydd yn disgwyl, yn ogystal â phobl hŷn a nifer fawr o unigolion a sefydliadau a ymatebodd i’w Hadolygiad, y bydd y cyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’w Hadolygiad yn cymryd camau pendant er mwyn cyflawni’r newid sy’n ofynnol, a thrwy hynny’n gwreiddio ansawdd bywyd yng nghalon gofal preswyl a nyrsio yng Nghymru ac yn sicrhau bod pobl hŷn yn derbyn yr hyn y mae ganddynt hawl ei dderbyn.
Gwireddu Anghenion Gweithredu’r Comisiynydd
Mae’r Comisiynydd wedi gwneud cais, yn unol â Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, bod y cyrff sy’n ddarostyngedig i’r Anghenion Gweithredu yn yr adroddiad hwn yn darparu, yn ysgrifenedig, erbyn 2 Chwefror 2015, adroddiad ynghylch:
- Sut maent wedi cydymffurfio neu’n cynnig cydymffurfio ag Anghenion Gweithredu’r Comisiynydd; neu
- Pam nad ydynt wedi cydymffurfio â’r Anghenion Gweithredu; neu
- Pam nad ydynt yn bwriadu cydymffurfio â’r Anghenion Gweithredu.
Bydd rhybuddion ysgrifenedig ffurfiol yn cael eu rhoi i unrhyw gyrff fydd yn methu ymateb neu’n darparu gwybodaeth annigonol. Os nad ystyrir bod yr ymateb a dderbynnir yn foddhaol yn dilyn y broses hon, mae gan y Comisiynydd yr hawl i roi sylw cyhoeddus i’r mater.
Gofynion Gweithredu / Cofrestr Argymhellion
Mae’n ofynnol i’r Comisiynydd gadw cofrestr o’r argymhellion a roddir yn yr adroddiad a’r camau a gymerir fel ymateb. Mae’n rhaid i’r gofrestr fod ar gael i’r cyhoedd allu ei gweld.
Gofynion ar gyfer Gweithredu (tabl llawn)
Cofrestr o argymhellion