Panel Cynghori
Bydd Panel Cynghori yn gweithredu fel clust i wrando a chyfaill beirniadol i’r Comisiynydd drwy gynnig arweiniad heb ymrwymiad, barn strategol ac arbenigedd perthnasol i Adolygiad y Comisiynydd i ansawdd bywyd a gofal i bobl hŷn mewn cartrefi preswyl ledled Cymru.
Bydd y panel yn gweithredu fel fforwm diogel a chyfrinachol i edrych ar faterion, risgiau a heriau, a all fod yn rhwystrau i Adolygiad y Comisiynydd a’i nod cyffredinol o godi safonau ansawdd a gofal y ddarpariaeth mewn cartrefi gofal preswyl ledled Cymru.
Amlinelliad o Swyddogaethau
1. Gweithio fel tîm cynghori arbenigol i hwyluso cynnydd Adolygiad y Comisiynydd ac fel llysgennad i’w lwyddiant.
2. Cyfranogi mewn trafodaethau ar y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gofal preswyl; er enghraifft, anghenion gofal preswyl yn awr ac yn y dyfodol, a strategaethau lleol a chenedlaethol, polisi, deddfwriaeth a chanllawiau presennol.
3. Cynnig myfyrdod beirniadol a gwybodus ar ganfyddiadau cychwynnol y Comisiynydd a dogfennau eraill – bydd y rhain yn cael eu hanfon ymlaen llaw i hwyluso’r trafodaethau.
4. Rhoi cyngor arbenigol a her briodol i Adolygiad y Comisiynydd i ofal preswyl
Cwmpas
Mae peth o’r wybodaeth y bydd y Panel Cynghori’n ei gweld yn debygol o fod yn sensitif neu gyfrinachol dros ben, ac felly bydd disgwyl i’r aelodau drin yr holl ddogfennau’n gwbl gyfrinachol
Y Comisiynydd ei hun sy’n atebol yn y pen draw am sut mae’n defnyddio ei phwerau cyfreithiol; o ganlyniad bydd yn ystyried – ond ni fydd wedi ymrwymo i dderbyn – argymhellion y Panel Cynghori.
Aelodaeth / Cynrychiolaeth
Mae’r aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr profiadol o faes gofal preswyl a phobl hŷn:
Laraine Bruce | ______ | Carechecker |
Sue Kent | | Cyn Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
Steve Milsom | | Ymddeol Uwch Swyddog gyda Llywodraeth Cymru |
John Moore | | Fy Mywyd mewn Cartref Cymru |
Sue Phelps | | Cymdeithas Alzheimer |
Yr Athro Judith Phillips | | Rhwydwaith Heneiddio Pobl Hŷn, Prifysgol Abertawe |
John Vincent | | Senedd Pobl Hŷn Cymru |
Yr Athro John Williams | | Prifysgol Aberystwyth |
Richard Willams | | Cynghrair Henoed Cymru |