Aelodau’r Panel Ymchwilio

O’r dde i’r chwith: Meg Edwards, Monty Graham MBE, Dame Deirdre Hine DBE FFPH FRCP, Meirion Hughes, Nicky Hayes a Dr Charles Twining OBE.
Aelodau’r Panel Ymchwilio yw:
Y Fonesig Deirdre Hine DBE FFPH FRCP, Cadeirydd – Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi ymddeol, cyn Lywydd y Gymdeithas Feddygol Frenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain; Llywydd cyfredol y Gronfa Lesiannol Feddygol Frenhinol.
Y Dr Charles Twining OBE – seicolegydd clinigol, sydd wedi ymddeol fel Pennaeth seicoleg a chwnsela Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro.
Meg Edwards – Cyfarwyddwr Nyrsio wedi ymddeol, yn ymwneud â gwaith Age Cymru.
Nicky Hayes – Nyrs Ymgynghorol Pobl Hŷn, Ysbyty Coleg y Brenin, Llundain; Hyrwyddwr Clinigol i weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn ac arweinydd Urddas mewn Gofal.
Monty Graham MBE - nyrs wedi ymddeol, cynrychiolydd cleifion ar Fwrdd Iechyd Powys, Cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed, a gofalwr.
Meirion Hughes - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymddeol a chyn Brif Weithredwr dros dro Cyngor Sir Dinbych; cyn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych.