25.10.12
Rydym ar hyn o bryd yn datblygu Fframwaith Gweithredu 2013-17 y Comisiwn, a fydd yn arwain ein gwaith am y pedair blynedd nesaf.
Mae’n seiliedig ar farn pobl hŷn, yn ogystal â’r rhai sy’n eu cynorthwyo ac yn eu cynrychioli, a gasglwyd drwy ymgysylltu eang a pharhaus ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Credwn fod y pedair thema yn ein Fframwaith Gweithredu’n sail i ansawdd bywyd da; bywyd sydd â gwerth, ystyr a phwrpas.