16.5.18
Rydw i’n aml yn methu â chredu fy mod wedi cymryd swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru chwe blynedd yn ôl, ym mis Mehefin 2012. Mae’r blynyddoedd wedi hedfan ac rydw i wedi bod yn falch o sefyll a siarad ar ran pobl hŷn drwy Gymru fel eu llais a’u heiriolwr annibynnol. Yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf, rydw i wedi cwrdd a siarad â miloedd o bobl hŷn drwy Gymru, sydd wedi rhannu cymaint mor hael gyda mi ynglŷn â’u bywydau, eu profiadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae lleisiau pobl hŷn, yn eu holl amrywiaeth, wedi arwain a llunio amrediad eang o waith rydw i wedi’i wneud fel Comisiynydd yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf, sydd wedi cael ei amlinellu yn yr Adroddiad Etifeddol hwn, sy’n cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’m Hadroddiad Effaith a Chyrhaeddiad.