February 16, 2016
Un o’m blaenoriaethau i fel Comisiynydd, fel y nodir yn fy Fframwaith Gweithredu ar gyfer 2013-171, yw amddiffyn a gwella gwasanaethau cymunedol – gwasanaethau anstatudol fel canolfannau dydd, toiledau cyhoeddus, llyfrgelloedd a thrafnidiaeth y mae pobl hŷn yn nodi’n aml eu bod yn bethau cwbl allweddol. Dyna pam yr wyf wedi cyhoeddi’r Canllawiau hyn, a gyflwynir o dan Adran 12 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 20062. Maent wedi’u cynllunio i sicrhau bod Asesiadau cadarn o’r Effaith ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cael eu cynnal pan gynigir newidiadau i wasanaethau cymunedol, sy’n hanfodol er mwyn sicrhau nad oes effaith anghymesur ar bobl hŷn a bod dulliau gweithredu eraill yn cael eu hystyried.
Full story