21/06/2020
Sut brofiad fu byw neu weithio mewn cartref gofal dros y misoedd diwethaf? I fod yn ffrind neu’n berthynas preswylydd mewn cartref gofal, ac yn methu ymweld â nhw? Mae wedi peri cryn bryder i mi, gan ein bod wedi gweld trychineb yn digwydd yn ein cartrefi gofal, nad yw lleisiau’r rhai pwysicaf yn hyn oll, sef yr ‘arbenigwyr yn ôl eu profiad’ wedi cael ei glywed ddigon. Dyma’r rheswm dros gyhoeddi’r adroddiad hwn, sy’n rhoi llais i bobl sy’n byw ac sy’n gweithio yn ein cartrefi gofal, ac sy’n cynnig cipolwg ar eu profiadau nhw yn ystod pandemig Covid-19.