Hafan >
Hyb Gwybodaeth am y Coronafeirws
Hyb Gwybodaeth am y Coronafeirws
Gwyddom fod llawer o bobl hŷn a’u teuluoedd yn poeni’n fawr am y ffordd mae’r coronafeirws a’r cyfyngiadau sydd ar waith yn effeithio ar eu bywydau, a’u bod eisiau gwneud popeth posib i aros yn iach ac yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd ac ansicr hwn.
Dyna pam rydym wedi creu’r hyb yma, i sicrhau bod pobl hŷn a’u teuluoedd yn gallu cael gafael ar y canllawiau, y cyngor a’r wybodaeth ddefnyddiol ddiweddaraf ynghylch beth mae angen i chi ei wneud, ble gallwch chi gael cymorth, a sut gallwch chi gadw mewn cysylltiad.
Cysylltu â ni
Yn unol â’r canllawiau swyddogol, mae tîm y Comisiynydd i gyd yn gweithio o’u cartrefi erbyn hyn, ond fe allwch chi gysylltu â’n Tîm Gwaith Achos os oes gennych chi broblem a bod angen help a chefnogaeth arnoch chi.
Ffoniwch ni ar 03442 640 670, a gadewch neges gyda’ch manylion cyswllt. Bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib. Neu, cliciwch yma i gysylltu â’r tîm dros e-bost.
Gwybodaeth a chyngor
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yr wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws, a phob math o adnoddau a chanllawiau defnyddiol.
Mae’r wybodaeth hefyd ar gael ar ffurf hawdd ei ddeall yma.
Cliciwch yma i fynd i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru
Llywodraeth Cymru
Y cyngor diweddaraf am faterion iechyd, gan gynnwys gwybodaeth am ynysu’ch hun.
Cliciwch yma i fynd i wefan Llywodraeth Cymru
NHS 111
Os ydych chi’n poeni bod gennych chi symptomau’r coronafeirws, ewch i wefan NHS 111 i ddefnyddio’r adnodd gwirio symptomau ar-lein.
Cliciwch yma i fynd i wefan NHS 111
Awdurdodau lleol
Age Cymru
Gwybodaeth a chyngor am aros yn iach ac yn ddiogel, a mwy o wybodaeth am yr help a’r gefnogaeth a allai fod ar gael. Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth am y ‘gwasanaeth holi a sgwrsio’ newydd (check in and chat) gan Age Cymru ar gyfer pobl dros 70 oed.
Cliciwch yma i fynd i wefan Age Cymru
Gofal a Thrwsio Cymru
Gwybodaeth am sut gall Gofal a Thrwsio helpu a chefnogi pobl hŷn.
Cliciwch yma i fynd i Gofal a Thrwsio
Cyngor ar Bopeth
Gwybodaeth am ystod eang o bynciau gan gynnwys aros yn ddiogel ac yn iach, sgamiau a throseddau, hawliau ariannol a materion sy’n ymwneud â chyflogaeth.
Cliciwch yma i fynd i Cyngor ar Bopeth
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Llinell gymorth rad ac am ddim yn darparu help a chyngor ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Tel: 0808 80 10 800
Cliciwch yma i ymweld â Byw Heb Ofn
Hourglass (Action on Elder Abuse gynt)
Mae llinell gymorth gyfrinachol Hourglass yn darparu gwybodaeth a chymorth i unrhyw un sy’n pryderu bod person hŷn yn cael niwed, yn cael ei gam-drin neu’i ecsbloetio. Mae Swyddogion Gwybodaeth hyfforddedig yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i’ch helpu i wneud y dewisiadau gorau am gadw’n saff, ac yn eich rhoi mewn cysylltiad ag asiantaethau lleol priodol. Ffôn: 0808 808 8141
Cliciwch yma i ymweld â Hourglass
Awgrymiadau Iechyd a Lles
Sefydliad Iechyd y Byd
Mae’n hollbwysig bod pawb yn gofalu cymaint â phosib am eu hiechyd a’u lles yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae gan Sefydliad Iechyd y Byd wybodaeth am sut gallwch chi aros yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol wrth ynysu’ch hun.
Cliciwch yma i fynd i wefan Sefydliad Iechyd y Byd
BBC Radio 5 Live - 10 Today: Gweithgareddau Corfforol i Bobl Hŷn
Rhaglen ymarfer corf gan Sport England a Demos sydd wedi’i chynllunio ar gyfer pobl hŷn i’w diogelu rhag iechyd gwael a chlefydau, gwella eu hiechyd meddwl a chynnal eu hannibyniaeth.
CLICIWCH YMA I YMWELD Â 10 TODAY
Mind
Mae’n gwbl normal i fod yn poeni am effaith bosib y coronafeirws arnoch chi neu’ch anwyliaid. Mae gan Mind wybodaeth am sut gallwch chi reoli straen a gorbryder yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Cliciwch yma i fynd i wefan Mind
The Silverline
I lawer o bobl hŷn, mae’n bosib y bydd aros yn eu cartref er mwyn aros yn iach yn gwneud iddyn nhw deimlo’n unig a’u bod ar eu pen eu hunain. Mae The Silverline yn cynnig gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn, sy’n rhoi pobl hŷn mewn cysylltiad â gwirfoddolwyr sy’n gallu sgwrsio a rhoi gwybodaeth a chyngor.
Cliciwch yma i fynd i wefan The Silver Line
Gofalwyr Cymru / Carers Trust
Mae’r wythnosau a’r misoedd sydd o’n blaenau yn debygol o fod yn gyfnod anodd i ofalwyr di-dâl ar hyd a lled Cymru. Mae gan Gofalwyr Cymru a Carers Trust bob math o gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol i ofalwyr.
Cliciwch yma i fynd i wefan Gofalwyr Cymru
Cliciwch yma i fynd i wefan Carers Trust