Gwasanaethau Cam-Drin Domestig
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod wedi dioddef cam-drin domestig, neu mewn perygl o hynny, mae nifer o fudiadau cenedlaethol y gallwch chi gysylltu â nhw i gael cymorth.
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Llinell gymorth 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos ar gyfer unrhyw un sydd wedi profi cam-drin domestig/trais rhywiol, trais yn erbyn menywod, neu sy’n poeni am ffrind neu berthynas sy’n profi unrhyw fath o drais neu gam-drin.
Ffôn: 0808 80 10 800
E-bost: info@livefearfreehelpline.wales
Gwefan: https://llyw.cymru/byw-heb-ofn
Llinell Gymorth i Ddynion
Cyngor a chymorth i ddynion sy’n profi Cam-drin a Thrais Domestig.
Ffôn: 0808 801 0327
E-bost: info@mensadviceline.org.uk
Gwefan: http://www.mensadviceline.org.uk/
Mae’r map isod yn dangos mudiadau cenedlaethol ledled Cymru y gallwch chi gysylltu â nhw i gael cymorth a chefnogaeth.