Gall fod yn anodd gwybod ble mae dechrau pan fyddwch yn dymuno lleisio eich barn am fater sy’n effeithio arnoch. Rydym wedi llunio rhestr o ddolenni defnyddiol i’ch rhoi chi ar ben ffordd.
Gwneud Cymru yn genedl o gymunedau oed-gyfeillgar: Canllaw ymarferol
Cyngor cynhwysfawr am wneud eich cymuned yn fwy ystyriol o oedran gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru
http://www.olderpeoplewales.com/wl/Publications/Engagement_Toolkit_copy1.aspx
Canllaw ymarferol a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i’w ddefnyddio gan bobl hŷn sy’n dymuno sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed gan Awdurdodau Lleol pan fydd unrhyw newidiadau’n digwydd i wasanaethau cymunedol.
Gwybod Eich Hawliau: Canllaw Syml
Taflen fer sy'n esbonio eich hawliau, ynghyd â chysylltiadau defnyddiol.
Cael yr help sydd ei angen arnoch gan Wasanaethau Cymdeithasol: Canllaw i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
http://www.olderpeoplewales.com/Libraries/Uploads/Rethinking_Respite_for_People_Affected_by_Dementia.sflb.ashx
Gwybodaeth am opsiynau ar gyfer cyfnodau seibiant i ofalwyr. Mae wedi’i hanelu at bobl sydd â dementia, ond mae’r wybodaeth yn berthnasol i unrhyw un sydd â hawl i seibiant
http://www.olderpeoplewales.com/Libraries/Uploads/Care_Home_Guide_-_online.sflb.ashx
Mae’r llyfryn hwn yn ateb eich prif gwestiynau am gartrefi gofal
Gweithredu yn Erbyn Oedraniaeth
Arweinlyfr i’ch helpu i adnabod a herio oedraniaeth, ac mae’n cynnwys cysylltiadau defnyddiol i fynd ar ôl unrhyw gwynion a allai fod gennych.
Mae’r Can Do Guide, a gynhyrchwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree, yn cynnwys cyngor ymarferol i unrhyw un sy’n bwriadu sefydlu grŵp cymunedol.
Mae’r canfyddwr grantiau yn Cyllido Cymru yn gallu canfod lle gallwch wneud cais am gyllid ar gyfer eich grŵp neu weithgaredd.
https://bettertransport.org.uk/
Ystod o wybodaeth i’r cyhoedd i gefnogi’r gwaith o wella’r system drafnidiaeth. Mae’n cynnwys canllaw i ymgyrchwyr ar achub y gwasanaethau bws lleol yng Nghymru yn https://bettertransport.org.uk/sites/default/files/pdfs/welsh-bus-guide-cymraeg.pdf a chyngor cyfreithiol am gyfrifoldebau’r Cynghorau yn ymwneud â gwasanaethau bws yn https://bettertransport.org.uk/sites/default/files/pdfs/bus-cuts-lawyer-note.pdf
The Library Campaign: Saving and Supporting your Local Library
Canllaw sy’n seiliedig ar brofiadau pobl sy’n ceisio achub eu llyfrgell leol rhag cau.