Angen Help?

Beth yw cymunedau o blaid pobl hŷn?

Four people walking next to a river while conversing and smiling
Nine intergenerational people with their arms around each other's shoulders walking into a sunset

Beth yw cymunedau o blaid pobl hŷn?

Mewn cymuned sydd o blaid pobl hŷn, rydyn ni’n teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi, ein cynnwys a’n parchu, ac yn gallu:

  • mynd a dod
  • gwneud y pethau rydyn ni eisiau eu gwneud
  • byw bywydau iach ac egnïol
  • cael gafael ar wybodaeth
  • sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed

Yn dilyn galwadau gan y Comisiynydd, roedd Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio yn cynnwys ffocws cryf ar greu cymunedau oed-gyfeillgar, sy’n hanfodol i’n cefnogi i heneiddio’n dda.

Beth sy’n gwneud cymuned yn un o blaid pobl hŷn?

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn disgrifio cymunedau o blaid pobl hŷn fel llefydd lle mae pobl hŷn, cymunedau, polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth i gefnogi a galluogi pob un ohonom i heneiddio’n dda.

Maent yn nodi wyth nodwedd hanfodol o gymunedau o blaid pobl hŷn y mae partneriaethau’n gweithio i’w gwella, ac yn eu galw yn wyth nodwedd cymunedau o blaid pobl hŷn.

Adeiladau a mannau yn yr awyr agored

Mae cymunedau hygyrch yn galluogi pobl i gadw mewn cysylltiad, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a chael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau lleol. Mae strydoedd sydd mewn cyflwr da ac â digon o olau, arwyddion clir, mannau gwyrdd a thoiledau cyhoeddus i gyd yn cefnogi pobl hŷn i barhau i fod yn egnïol ac i fyw bywydau annibynnol.

Cludiant

Mae dulliau cludiant fforddiadwy, dibynadwy a chyfleus yn galluogi pobl i fynd a dod a pharhau i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Boed nhw’n mynd i siopa, yn ymweld â’r sinema, yn cwrdd â ffrindiau neu’n mynd i apwyntiad gyda’u meddyg, mae cludiant da yn hanfodol i bawb, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac i bobl nad ydynt yn gyrru.

Tai

Mae gan bawb hawl i dai digonol, ni waeth beth yw eu hoedran na’u gallu. I lawer, mae cael rhywle i’w alw’n gartref yn ganolog i’r hyn mae’n ei olygu i heneiddio’n dda. Drwy wneud newidiadau neu addasiadau bach, gall pobl barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae cymuned o blaid pobl hŷn yn helpu pobl i wneud penderfyniadau am ble byddant yn byw, a ydynt am aros yn eu cartref presennol ynteu chwilio am gartref newydd sy’n addas i’w hanghenion yn agos at y bobl a’r llefydd sy’n bwysig iddyn nhw.

Cyfranogiad cymdeithasol

Mae gallu cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu yn hanfodol i heneiddio’n dda. Mae cymunedau o blaid pobl hŷn yn galluogi pobl hŷn i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol, sy’n dod â phobl o bob oed at ei gilydd i rannu diddordebau.

Parch a chynhwysiant cymdeithasol

Mae oedraniaeth yn sail i nifer o’r problemau mae pobl hŷn yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac mae’n golygu bod pobl hŷn yn cael eu trin yn annheg, yn teimlo eu bod yn cael eu hallgáu’n gymdeithasol, ac yn gweld nad yw eu hawliau’n cael eu parchu. Mae cymunedau o blaid pobl hŷn yn herio oedraniaeth drwy ddod â phobl o wahanol oedrannau at ei gilydd a meithrin delweddau cadarnhaol o heneiddio.

Cyfranogiad dinesig a chyflogaeth

Mae gan bobl hŷn ddiddordebau amrywiol, ac mae llawer eisiau cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, megis gweithio, gwirfoddoli, bod yn weithgar yn wleidyddol neu gymryd rhan mewn grwpiau neu glybiau lleol. Yn aml, nid yw sgiliau a phrofiad pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol. Drwy helpu pobl hŷn i aros mewn gwaith, neu i wirfoddoli, gallant gael mwy o deimlad o bwrpas a pherthyn, ac mae hynny’n dda i’w lles ac yn dda i’r economi leol.

Cyfathrebu a gwybodaeth

Er mwyn cymryd rhan ym mywyd y gymuned, mae angen i chi wybod beth sy’n digwydd yn eich cymuned. Dylai gwybodaeth am ddigwyddiadau, gwasanaethau a chyfleusterau fod ar gael ar ffurf hygyrch, ac yn rhywle y bydd pobl yn gwybod ble i chwilio amdanynt. Dylid sicrhau’n arbennig bod gwybodaeth ar gael i bobl sydd â nam ar y synhwyrau, a dylai fod ar gael yn eu dewis iaith. Mae’n bwysig cofio hefyd nad yw’r holl bobl hŷn ar-lein, a hwyrach nad ydynt eisiau bod chwaith.

Cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd

Mae gwasanaethau iechyd a gofal, sy’n hygyrch ac yn fforddiadwy, yn allweddol i gadw pobl hŷn yn iach, yn annibynnol ac yn egnïol. Mae angen i’r gwasanaethau hyn fod wedi’u lleoli’n gyfleus ar gyfer y mannau lle y mae pobl yn byw ac yn agos at lwybrau cludiant cyhoeddus.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd hefyd wedi nodi 4 prif gam i bartneriaethau eu cymryd gyda’i gilydd wrth symud ymlaen gydag unrhyw waith o blaid pobl hŷn:

  • Cynllunio
  • Gweithredu a Rhoi ar waith
  • Gwerthuso
  • Ymgysylltu a Deall

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges