Swyddi Gwag
Sbarduno Newid i Bobl Hŷn ledled Cymru
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais annibynnol ac yn hyrwyddwr ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru. Drwy weithio i’r Comisiynydd, byddwch yn rhan o sefydliad deinamig a phrysur sy’n sicrhau canlyniadau cadarnhaol er mwyn gwneud Cymru yn lle da i dyfu’n hŷn ynddo.
Rydym yn chwilio am Arweinydd Diogelu i arwain yn weithredol ar flaenoriaeth y Comisiynydd, sef atal cam-drin pobl hŷn yng Nghymru.
Drwy weithio gyda’r Comisiynydd a mudiadau allweddol ledled Cymru, byddwch yn rhoi eich gwybodaeth a’ch profiad ym maes diogelu mewn i rôl allweddol fydd yn trawsnewid yr ymwybyddiaeth o, a’r adwaith i, gamdriniaeth pobl hŷn.
Arweinydd Diogelu
£35,904 – £43,707
Parhaol
Llawn neu Rhan Amser
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 28 Ebrill 2021, 5yp
