Angen Help?

Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg

A calculator and pen on a financial graph

Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cefnogi’r Comisiynydd fel Swyddog Cyfrifyddu wrth fonitro ac adolygu llywodraethu corfforaethol, cyllid, rheoli risg a systemau rheoli mewnol.

Mae’r Pwyllgor yn cynnwys pedwar aelod annibynnol. Mae’r pwyllgor hwn yn cyfarfod yn chwarterol a chaiff cofnodion y cyfarfodydd eu cyhoeddi ar ein gwefan.

Mae’r Pwyllgor yn darparu adroddiad blynyddol i’r Comisiynydd sy’n rhoi crynodeb o waith y Pwyllgor.

Rôl y Pwyllgor

Prif bwrpas y Pwyllgor yw cefnogi’r Comisiynydd, drwy adolygu pa mor gynhwysfawr yw’r systemau sicrwydd a roddwyd ar waith i ddiwallu anghenion ei Swyddog Cyfrifyddu ac adolygu dibynadwyedd ac uniondeb y systemau hyn.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Rhoi barn ar i ba raddau y caiff y Comisiynydd ei chefnogi i wneud penderfyniadau ac o ran cyflawni ei rhwymedigaethau fel Swyddog Cyfrifyddu (yn enwedig yng nghyswllt trefniadau Llywodraethu ac Adroddiadau Ariannol);
  • Rhoi cyngor ac arweiniad i’r Comisiynydd ar y gwaith o gyflawni amcanion y sefydliad; ac
  • Craffu ar gynnydd y Comisiynydd yn erbyn y broses o gyflawni’r amcanion y cytunwyd arnynt.

Bydd y Pwyllgor yn cynghori’r Comisiynydd ar y canlynol:

  • y prosesau strategol ar gyfer rheoli risg, rheolaeth a llywodraethu a’r Datganiad Llywodraethu;
  • y polisïau cyfrifyddu, y cyfrifon ac adroddiad blynyddol y sefydliad, gan gynnwys proses adolygu’r cyfrifon cyn eu cyflwyno i’w harchwilio, lefelau’r gwallau a nodwyd, a llythyr sylwadau’r Swyddog Cyfrifyddu at yr Archwilydd Cyffredinol;
  • y gweithgarwch arfaethedig a chanlyniadau archwilio mewnol ac allanol;
  • digonolrwydd ymateb rheolwyr i faterion a nodwyd drwy’r gwaith archwilio, gan gynnwys llythyr rheoli’r archwilydd allanol;
  • sicrwydd sy’n ymwneud â gofynion llywodraethu corfforaethol y sefydliad;
  • (lle bo’n briodol) cynigion ar gyfer tendro am wasanaethau Archwilio Mewnol neu ar gyfer prynu gwasanaethau nad ydynt yn cael eu harchwilio gan gontractwyr sy’n darparu gwasanaethau archwilio;
  • polisïau gwrth-dwyll a gwyngalchu arian a phrosesau chwythu’r chwiban.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn adolygu ei effeithiolrwydd ei hun bob blwyddyn ac yn cyflwyno canlyniadau’r adolygiad hwnnw i’r Comisiynydd.

Nid yw Aelodau’r Pwyllgor yn cael eu cyflogi gan y Comisiynydd ac nid ydynt yn cymryd rhan ym musnes y sefydliad o ddydd i ddydd nac yn cyflawni unrhyw swyddogaethau gweithredol.

Aelodau’r Pwyllgor Archwilio yw:

Claire Bevan, Chair of ARAC

Claire Bevan (Cadeirydd)

Mae Claire yn Nyrs Gyffredinol Gofrestredig gyda 40 mlynedd o brofiad. Ym mis Rhagfyr 2019, gwnaeth ymddeol fel Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ac Ansawdd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Mae ganddi brofiad helaeth o weithio ar draws Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yn GIG Cymru fel rheolwr ac uwch arweinydd proffesiynol, gan weithio ar draws amrywiaeth o feysydd clinigol arbenigol a swyddogaethau corfforaethol, yn gymwys addysg, archwilio, ymchwil a datblygu, profiad cleifion, pryderon, diogelu, atal a rheoli haint, sicrhau ansawdd a gwella, iechyd a diogelwch a rheoli risg.

Dechreuodd ei gyrfa’n arbenigo fel Nyrs y Galon; gyda diploma mewn Nyrsio, Gradd Baglor mewn Nyrsio a Msc mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwella Gwasanaethau Iechyd (Prifysgol Birmingham). Mae Claire yn Rheolwr a Mentor Gweithredol (lefel 7) ac yn Ymarferydd NLP.

Roess Claire Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer digideiddio’r rhaglen dogfennau nyrsio yn GIG Cymru, sef rhaglen o waith sy’n bwysig ar gyfer datblygu cofnodion cleifion electronig.

Mae ei thaith bersonol dros y blynyddoedd diwethaf fel gofalwraig dros aelod o’i theulu sy’n byw gyda hi, sydd â chlefyd Alzheimer’s, wedi arwain ati’n bod yn eiriolwr ar gyfer pobl hŷn a gofalwyr. Mae Claire yn frwdfrydig am wneud gwahaniaeth ar gyfer pobl hŷn a defnyddio ei phrofiad fel aelod o’r Pwyllgor Sicrwydd Archwilio a Risg gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Julia Evans, member of ARAC

Julia Evans

Mae Julia wedi gweithio yn y sector cyllid cyhoeddus ers 35 mlynedd – yn gyntaf fel archwilydd allanol am 20 mlynedd, cyn symud i faes cyfrifyddu yn y sector cyhoeddus.

Ar ôl cwblhau gradd BA (Anrh) mewn Gweinyddu Cyhoeddus yn 1983, ymunodd â’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Llundain fel rhan o gynllun hyfforddiant i raddedigion y Swyddfa, lle bu’n astudio tuag at fod yn aelod o’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth. Cafodd gymhwyster CIPFA yn 1987, ar ôl symud i swyddfeydd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd yn ymwneud ag archwilio cyfrifon ariannol yn bennaf.

Cafodd Julia ei phenodi’n Ddirprwy Brif Weithredwr (Cyllid, Personél a Gwasanaethau Corfforaethol) Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) ym mis Ionawr 2014, lle bu’n gyfrifol am adrodd, monitro a chynllunio ariannol; rheoli ariannol; archwilio; yr holl faterion AD gan gynnwys datblygu polisïau AD, hyfforddi a datblygu staff, yn ogystal â llety a materion cysylltiedig. Fel rhan o’r Uwch Dîm Rheoli, roedd hefyd yn gyfrifol am reolaeth strategol y Cyngor. Cafodd CyngACC ei ailstrwythuro a chafodd ei ailenwi’n Gyngor y Gweithlu Addysg ym mis Ebrill 2015. Fe wnaeth Julia barhau yn ei swydd fel Dirprwy Brif Weithredwr (Cyllid, AD a Gwasanaethau Corfforaethol) nes iddi ymddeol o’r swydd honno ym mis Rhagfyr 2018.

Chris Knight, member of ARAC

Chris Knight

Mae Chris yn gyfrifydd CIPFA cymwysedig gyda thros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad mewn llywodraeth leol a llywodraeth ganolog, a hefyd yn y sectorau addysg ac elusennol. Mae hyn wedi cynnwys gweithio yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru ers blynyddoedd lawer, a threulio rhywfaint o amser yn gweithio dramor, gan gynnwys gweithio i elusen cymorth ryngwladol.

Mae gan Chris brofiad sylweddol mewn gwaith archwilio, ar ôl bod yn Brif Archwilydd Mewnol i dri sefydliad mawr. Mae hefyd wedi cael profiad ymarferol sylweddol ym maes rheoli ariannol, ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Cyllid i ddau sefydliad arall. Ei rôl ddiweddaraf yw Cyfarwyddwr Cyllid ac Ysgrifennydd Cwmni ar gyfer elusen ranbarthol sy’n gweithio i fynd i’r afael â digartrefedd ymysg pobl ifanc.

David Powell, member of ARAC

David Powell FCPFA

Mae gan David brofiad helaeth o’r sector cyhoeddus trwy Gynghorau Unedol, Cynghorau Sir a Chynghorau Dosbarth yng Nghymru a Lloegr. Am dros 10 mlynedd, roedd yn Gyfarwyddwr Cyllid ac roedd hefyd yn arwain amrywiaeth o wasanaethau a meysydd corfforaethol.

O 2013, nes iddo adael llywodraeth leol yn 2019, roedd yn gweithio i Gyngor Sir Powys fel Cyfarwyddwr Strategol Adnoddau, Prif Weithredwr dros dro a Dirprwy Brif Weithredwr. Mae hefyd wedi gweithio yng Nghyngor Swydd Henffordd, Cyngor Sir Swydd Gaerloyw a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, lle’r oedd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg.

Fe gafodd wybodaeth am y problemau sy’n wynebu pobl hŷn trwy weithio mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol ac fel Aelod Bwrdd ar gyfer Sefydliad Elusennol yn y sector gofal pobl hŷn. Yn ychwanegol i hyn, mae ganddo sawl blwyddyn o brofiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol, gan gynnwys bod yn Gadeirydd y Gymdeithas Dai Two Rivers yn Swydd Gaerloyw lle’r oedd gwasanaethau ar gyfer pobl hyn yn prif flaenoriaeth.

Trwy gydol ei yrfa, mae David wedi ceisio datblygu a chodi ymwybyddiaeth o gyllid llywodraethau lleol a gwasanaethau cymunedol drwy eu cynrychioli ar baneli Llywodraeth cenedlaethol, ac ar hyn o bryd mae’n aseswr Cymdeithas Llywodraeth Leol ar gyfer safonau gwasanaethau cyngor, cyllid a llywodraethu. Mae’n aelod o Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ers amser hir ac mae’n gyn-arholwr hefyd. Daeth yn Gymrawd y Sefydliad yn 2018.

Picture of Sian Richards, member of ARAC

Sian Richards

Ymunodd Sian â’r GIG yn 2002 fel Rheolwr Adnoddau Dynol. Ers hynny, mae wedi dal nifer o swyddi amrywiol yn y GIG, gan gynnwys rheoli rhaglenni gwella gwasanaethau, a swyddi rheoli gweithredol a chyffredinol ar draws y gwasanaethau aciwt, sylfaenol a chymunedol.

Yn 2010, ymunodd â’r Gyfarwyddiaeth Ddigidol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gyda chyfrifoldeb am amryw o adrannau a systemau digidol, llywodraethu gwybodaeth, cofnodion iechyd, codio clinigol ac ansawdd data. Yn 2018, penodwyd Sian yn Ddirprwy Brif Swyddog Digidol gyda chyfrifoldeb dros strategaeth ddigidol, gan gynnwys rhaglenni lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Yn 2021, cafodd ei phenodi i swydd Cyfarwyddwr Datblygu Digidol yn AaGIC. Yn ei swydd, mae hi’n gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno strategaeth ddigidol a data AaGIC sy’n nodi’r weledigaeth a’r dull gweithredu i ddarparu atebion arloesol a hygyrch o ansawdd uchel yn y meysydd digidol a data, ar yr un pryd â chefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithlu sydd â sgiliau digidol sy’n gwella gofal ac iechyd y boblogaeth.

 

Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg: Cylch Gorchwyl

Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg: Adroddiadau Blynyddol

Adroddiad Blynyddol 2022-23

Adroddiad Blynyddol 2021-22

Adroddiad Blynyddol 2020-21

Adroddiad Blynyddol 2019-20

Adroddiad Blynyddol 2018-19

Eitemau wedi’u llwytho i lawr

Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Hydref 2023

Maint y ffeil
0.23MB
Math o ffeil
PDF Document
Llwytho i lawr

Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Medi 2023

Maint y ffeil
0.28MB
Math o ffeil
PDF Document
Llwytho i lawr

Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Gorffennaf 2023

Maint y ffeil
0.2MB
Math o ffeil
PDF Document
Llwytho i lawr

Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Ebrill 2023

Maint y ffeil
0.14MB
Math o ffeil
MS Word Document
Llwytho i lawr

Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Ionawr 2023

Maint y ffeil
0.14MB
Math o ffeil
MS Word Document
Llwytho i lawr

Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Hydref 2022

Maint y ffeil
0.14MB
Math o ffeil
MS Word Document
Llwytho i lawr

Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Gorffenaf 2022

Maint y ffeil
0.13MB
Math o ffeil
MS Word Document
Llwytho i lawr

Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Ebrill 2022

Maint y ffeil
0.14MB
Math o ffeil
MS Word Document
Llwytho i lawr

Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Ionawr 2022

Maint y ffeil
0.12MB
Math o ffeil
MS Word Document
Llwytho i lawr

Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Tachwedd 2021

Maint y ffeil
0.11MB
Math o ffeil
MS Word Document
Llwytho i lawr

Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Ebrill 2021

Maint y ffeil
0.11MB
Math o ffeil
MS Word Document
Llwytho i lawr

Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Chwefror 2021

Maint y ffeil
0.11MB
Math o ffeil
MS Word Document
Llwytho i lawr

Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Hydref 2020

Maint y ffeil
0.1MB
Math o ffeil
MS Word Document
Llwytho i lawr

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges