Gadael Neb ar Ôl
Galwodd Adroddiad Gadael Neb Ar Ôl y Comisiynydd am amrywiaeth o gamau gweithredu - ar unwaith ac yn y tymor hwy - i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw ac nad ydyn nhw’n cael eu heithrio na’u gadael ar ôl wrth i Gymru ddelio â phandemig Covid-19 ac edrych tuag at ei hadferiad.
Darllenwch adroddiad Gadael Neb Ar Ôl y Comisiynydd yma
Gweminar Gadael Neb ar Ôl
Ar 1 Hydref, Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, ymunodd panel arbenigol â’r Comisiynydd i archwilio’r ffyrdd y gallwn weithio gyda’n gilydd i fwrw ymlaen â’r galwadau i weithredu yn adroddiad Gadael Neb Ar Ôl a’r ffyrdd mwyaf effeithiol o roi newid ar waith a sicrhau adferiad oed-gyfeillgar ar ôl Covid-19.
Fe wnaethom hefyd gyfweld â Margaret, a rannodd ei stori yn yr adroddiad, i glywed sut mae bywyd wedi bod iddi a’i gŵr ers i ni gyhoeddi Gadael Neb Ar Ôl.
Gwyliwch sesiynau o’r weminar yma
Gadael Neb Ar Ôl: Adnoddau Defnyddiol
Yn Gadael Neb Ar Ôl, sef y weminar a gynhaliwyd gennym, bu'r cyfranwyr yn rhannu amrywiaeth o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol a fyddai’n gallu cefnogi pobl hŷn a’ch gwaith chi. Edrychwch beth sydd ar gael.
Ewch i'r dudalen adnoddau defnyddiol