Ebrill 2008 - Ionawr 2010 |
Y Comisiynydd yn siarad â phobl hŷn ledled Cymru ac yn casglu eu safbwyntiau a’u blaenoriaethau. |
|
Chwefror 2010 |
Ymgynghoriad ar b’un a ddylai Adolygiad cyntaf y Comisiynydd ganolbwyntio ar ofal cymdeithasol neu iechyd. |
|
Mawrth 2010 |
Y Comisiynydd yn cyhoeddi y byddai’r Adolygiad yn canolbwyntio ar urddas a pharch mewn lleoliad iechyd. |
|
Ebrill 2010 |
Y Panel Ymchwilio yn cael ei benodi. |
|
Mai - Mehefin 2010 |
Y Panel Ymchwilio yn pennu cwmpas yr Adolygiad ac yn nodi’r dulliau y byddai’n eu defnyddio i gasglu tystiolaeth. |
|
Mehefin - Awst 2010 |
Galw ar y cyhoedd i roi tystiolaeth am brofiadau pobl hŷn yn yr ysbyty. |
|
Medi – Tachwedd 2010 |
Y Panel yn ymweld ag 16 o ysbytai ledled Cymru. |
|
Rhagfyr – Ionawr 2010 |
Y Panel yn dadansoddi’r dystiolaeth ac yn paratoi adroddiad yn seiliedig ar ei ganfyddiadau. |
|
Chwefror - Mawrth 2011 |
Y Comisiynydd yn ystyried canfyddiadau’r Panel, ac yn llunio’r argymhellion. |
|
Chwefror- Mawrth 2011 |
Cyhoeddi adroddiad ac argymhellion yr Adolygiad. |
|
Mehefin 14, 2011 |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion i’r argymhellion. Mae gan y cyrff cyhoeddus y mae’r argymhellion yn berthnasol iddynt dri mis i ymateb a dangos i’r Comisiynydd ba gamau gweithredu pellach y byddant yn eu cymryd i gydymffurfio â’r argymhellion. |
|
Mehefin - Hydref 2011 |
Bydd y Comisiynydd yn cadw cofrestr o fanylion yr argymhellion a chamau gweithredu pellach a gymerwyd. Gall y Comisiynydd gymryd camau gweithredu pellach i wneud gwaith dilynol ar yr ymatebion i’r argymhellion. |