Mynediad at Eiriolaeth
Gall eiriolaeth annibynnol wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl hŷn, gan eu
helpu i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed a bod ganddynt gefnogaeth, rhywbeth
sy’n hynod bwysig ar adegau anodd neu heriol.
Mewn rhai amgylchiadau, mae gan bobl hŷn hawl gyfreithiol i gael mynediad at eiriolwr
annibynnol ac i gael cefnogaeth gan un.
Felly, mae’r Comisiynydd yn gwneud gwaith
i ddeall sut mae mynediad at eiriolaeth annibynnol yn digwydd yn ymarferol yng
Nghymru ar hyn o bryd, cyn cyhoeddi adroddiad yn gynnar y flwyddyn nesaf a fydd yn
rhoi llais i bobl hŷn a thynnu sylw at eu profiadau o ddefnyddio gwasanaethau eiriolaeth
annibynnol. Bydd yr adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o arfer da hefyd ac yn nodi pa
welliannau y bydd angen eu gwneud i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael mynediad at y
gwasanaethau hanfodol hyn pan mae ganddynt yr hawl i’w cael.
I gefnogi’r gwaith hwn, mae’r Comisiynydd yn awyddus i glywed gan bobl hŷn am
eu profiadau o ddefnyddio eiriolaeth annibynnol, yn ogystal â chan bobl broffesiynol
a’r rheini sy’n gweithio gyda phobl hŷn sydd wedi cefnogi pobl hŷn i gael mynediad
at y gwasanaethau hyn. Bydd hyn yn ei helpu i greu darlun o fynediad pobl hŷn at
wasanaethau eiriolaeth ar draws Cymru.
Os ydych chi’n berson hŷn ac yn awyddus i rannu eich profiadau o ddefnyddio neu
o gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol, a fyddech cystal â llenwi ein
harolwg cryno ar-lein sydd ar gael ar https://goo.gl/forms/Pyw9NUQaTREvDRXn1.
Os
hoffech chi gael copi caled o’r holiadur, ffoniwch ni ar 03442 640670.
Os ydych chi’n gweithio gyda phobl hŷn ac wedi rhoi cymorth iddynt gael mynediad
at wasanaethau eiriolaeth annibynnol, a’ch bod chi’n gallu rhannu gwybodaeth
gyda’r Comisiynydd, cysylltwch â Nicola Evans drwy anfon e-bost at nicola.evans@
olderpeoplewales.com neu ffonio 03442 640 670.