Angen Help?

Cynllun Cyhoeddi

The Commissioner's logo with a illustration of a checklist to the side

Cynllun Cyhoeddi

Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi mabwysiadu cynllun cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae’r cynllun yn nodi saith categori eang o wybodaeth y mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ymrwymo i sicrhau eu bod ar gael yn rheolaidd. Byddwn yn darparu cymaint o wybodaeth â phosib yn rheolaidd o dan y categorïau gwybodaeth hyn.

Mae’r cynllun hefyd yn nodi o dan ba amgylchiadau na fyddai gofyn i’r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rheolaidd. Y rhain yw:

  • Pan nad yw’r wybodaeth yn cael ei chadw, neu pan fydd ar ffurf drafft;
  • Pan fydd y wybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu (er enghraifft, os yw’n wybodaeth bersonol neu gyfrinachol); neu
  • Pan nad yw’r wybodaeth ar gael yn hwylus mwyach.

Canllawiau i Wybodaeth

Mae cynllun cyhoeddi’r Comisiynydd yn nodi’r math o wybodaeth rydym yn sicrhau ei bod ar gael yn rheolaidd, yn y saith maes gwybodaeth a ganlyn:

Sut gallwch chi gael gafael ar y wybodaeth

Bydd llawer o’r wybodaeth rydym yn ei chadw, sy’n dod o dan y Cynllun hwn, ar gael ar ein gwefan ac mae modd ei llwytho i lawr am ddim. Os nad yw’r wybodaeth ar gael ar ein gwefan, mae modd i ni ei darparu ar gais.

Mae modd cael copïau papur o’r wybodaeth rydym yn ei chadw, drwy anfon e-bost at gofyn@olderpeoplewales.com, drwy ffonio’r swyddfa ar 03442 640 670 neu drwy ysgrifennu at: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FL.

Anfonir y wybodaeth y gofynnwyd amdani, sydd wedi’i chynnwys yn y cynllun cyhoeddi, atoch o fewn pum diwrnod gwaith.

Mae holl ddeunyddiau’r Comisiynydd ar gael yn Gymraeg, ac mae modd darparu’r holl ddeunyddiau sydd wedi cael eu teipio mewn print bras ar gais. Mae modd trefnu i gynhyrchu rhai dogfennau mewn braille, fersiynau sain neu fersiynau eraill hefyd.

Ffioedd

Mae’r wybodaeth sy’n cael ei darparu ar bapur ar gael am ddim am gopïau unigol. Codir tâl am lungopïo a phostio os archebir copïau niferus, a phan fydd costau o’r fath dros £10.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges