Rhaglen Waith 2012/13
Mae gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cael ei sbarduno gan yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud sy'n bwysig iddyn nhw. Mae ymgysylltu'n uniongyrchol ac yn gyson â phobl hŷn, yn ogystal â'r rheini sy'n eu cynrychioli a'u cefnogi, yn sicrhau bod gwaith y Comisiwn yn adlewyrchu'r materion sydd bwysicaf iddynt ac sy'n cael effaith ar fywydau pobl 60 oed a hŷn yng Nghymru.
Am y tro cyntaf, rydym wedi cyhoeddi rhaglen waith y Comisiwn, sy'n cyflwyno 50 darn penodol o waith a fydd yn cael eu datblygu yn ystod y 18 mis nesaf, gan dargedu'r meysydd canlynol:
- Gwahaniaethu ar sail oedran
- Pryderon ariannol a thlodi
- Talu am ofal cymdeithasol, a mynediad at y gofal hwnnw
- Gofalwyr hŷn di-dâl
- Dementia
- Trefniadau eiriolaeth mewn cartrefi gofal
- Gwybodaeth a chyngor
- Amddiffyn a diogelu oedolion
- Urddas a pharch mewn ysbytai
- Heneiddio'n dda yng Nghymru
- Datblygu gwasanaethau cyhoeddus gwell
Cliciwch yma i lawrlwytho crynodeb o'r prif feysydd y byddwn yn canolbwyntio arnyn nhw yn ystod 2012/13.
Cliciwch yma i lawrlwytho adroddiad manwl sy'n disgrifio'n rhaglen waith lawn.